Cerdyn Coch i Radio Carmarthenshire

Y Byd ar Bedwar Yn dilyn rhaglen Y Byd ar Bedwar heno ar S4C mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno'n swyddogol gan fod Ofcom wedi penderfynu codi'r garden felen oddi ar Radio Carmarthenshire ym mis Rhagfyr (Pwyswch yma i weld copi o'r Llythr - pdf).

Teimlwn y dylai Ofcom ail gyflwyno'r cerdyn melyn yn y tymor byr, ac yn dilyn tystiolaeth newydd, dylsid dangos cerdyn coch i Radio Carmarthenshire! Pan fonitrwyd yr orsaf am 24 awr:* 7% o'r siarad yn unig oedd trwy gyfrwng y Gymraeg a 93% yn Saesneg* 4 cân Gymraeg a glywyd a 260 cân Saesneg.Cred Cymdeithas yr Iaith y dylai Radio lleol adlweyrchu'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu - mae dros 50% o boblogaeth Sir Gâr yn Gymry Cymraeg, dylai Radio Carmarthenshire hefyd ddarlledu 50% trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn parhau i ymgyrchu'n galed i sicrhau y bydd radio lleol yn Sir Gâr yn cyrraedd y nôd hwn.Bydd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ar 2il Mawrth 2005 yn dilyn protest yn stiwdios Radio Carmarthenshire, Arberth nôl ym mis Gorffennaf 2004.Darllenwch y stori oddi ar wefan y Western Mail