Gweithredu uniongyrchol ar strydoedd Caerfyrddin

Codi Sticeri Ble mae'r Gymraeg Cafodd tua 50 o gwmniau megis Next, Marks & Spencer, Body Shop a Boots, eu targedu yng Nghaerfyrddin neithiwr, gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd a chwmniau preifat ac felly maent yn rhydd i gynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymryd cyfrifoldeb am y weithred.Meddai Rhys Llwyd, cadeirydd ymgyrch Deddf Iaith Newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ail-godi yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”Bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i weithredu’n uniongyrchol dros y misoedd nesaf, gan dargedu cwmniau mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993. Eisioes targedwyd llu o gwmniau yn y Fflint, Caernarfon, Caerdydd Aberystwyth, Bangor ac Aberteifi.Ychwanegodd Rhys Llwyd:“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg priodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen gwneud hyn ar frys. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.”Ychwanegodd Hedd Gwynfor, Is-gadeirydd y Gymdeithas:"Yn benllanw i'r ymgyrch newydd hon, byddwn yn cynnal Fforwm Cenedlaethol dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth ar Mawrth 12fed i gyflwyno'n gweledigaeth o Ddeddf Iaith newydd. Ein nod yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. wedi cytuno i annerch y fforwm, ac mae swyddogion o Fwrdd yr Iaith wedi cael eu gwahodd.”Stori oddi ar wefan y Western MailLluniau o'r weithred yn awr arlein