Ar y diwrnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod cynnig gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddyfodol ysgolion bychain (Dydd Mawrth 8/11/05), bydd Cymdeithas yr Iaith ac ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol yn cynnal 2 Wylnos.
Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Jane Davidson ymyrryd i sicrhau fod 'Strategaeth Moderneiddio Darpariaeth Addysg' Cyngor Sir Gaerfyrddin yn derbyn cyfnod o ymgynghori trwy'r Sir am ei holl egwyddorion sylfaenol o ran canoli addysg.Gofynodd y Gymdeithas hefyd i Jane Davidosn i fynnu gan Cyngor Sir Gaerfyrddin, Astudiaethau Effaith ar yr Amgylchedd, Trafnidiaeth, Bywyd Cymunedol ac ar yr Iaith Gymraeg o weithredu'r strategaeth trwy'r sir. Mae'n gwbl anghyfrifol eu bod yn dechrau gweithredu'r strategaeth fesul ardal heb ystyried dim o'r pynciau sylfaenol hyn.Er mwyn cadw'r pwysau ar y Cynulliad, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith a Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr yn cynnal Gwylnosau tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol (dydd Mawrth 8/11/05 o 3pm tan fore trannoeth).Byddwn hefyd yn cynnal Gwylnos tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin (dydd Mawrth 8/11/05 o 4.30pm - 8.00pm) i ddangos cefnogaeth ac i barhau i bwyso ar y Cyngor Sir i gynnal ymgynghoriad sir-eang ar yr MEP.Stori oddi ar wefan y Carmarthen Journal