Mudiad di-drais - Cravos yn ddi-euog

Steffan CravosWynebodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Steffan Cravos - achos Llys yn Hwlffordd heddiw, wedi ei gyhuddo o niwed corfforol, yn dilyn protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn stiwdio Radio Carmarthenshire dros flwyddyn yn ôl. Mae Steffan Cravos yn gwadu'r cyhuddiad.

Bu rhaid gohirio'r achos tan 10am bore yfory, wedi i un o dystion yr erlyniad fethu cyrraedd y Llys mewn amser. Bydd sesiwn bore fory yn cychwyn gyda thystiolaeth y tyst hwn, ac yna bydd modd cychwyn yr amddiffyniad, ond cyn hyn bydd rhaid i'r Ynadon benderfynnu fod yna achos i ateb.Yn dilyn yr achos heddiw dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gaerfyrddin a Phenfro Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad di-drais a phrotest ddi-drais a gynhaliwyd yn stiwdios Radio Carmarthenshire nôl yn 2004. Buom yn protestio bryd hynny am fod Radio Carmarthenshire yn darlledu yn Sir Gâr bron yn gyfangwbl Saesneg ac yn dangos amharch llwyr at natur ieithyddol y Sir.""Mae gan Gymdeithas yr Iaith y cydymdeimlad mwyaf gyda Ms. Amy Bowen a ddioddefodd anaf - boed hynny trwy ddamwain, trwy esgeulustod ar ein rhan neu o ganlyniad i'r cythrwfl ar ol i'n haelodau gael eu gwthio o'r stiwdio arall gan weithwyr yr orsaf radio.""Mae Ms. Bowen a'r erlyniad wedi derbyn nad oedd unrhyw fwriad i greu niwed o'r fath, ond y mae'r Gymdeithas yn derbyn cyfrifoldeb am y ffaith na buasai'r anaf wedi digwydd oni bai am ein protest.""Er bod gyda ni gydymdeimlad mawr a Ms. Bowen, mae Cymdeithas yr Iaith yn condemnio haerllugrwydd Mr Keri Jones (Rheolwr Radio Sir Gar) a ddangoswyd unwaith yn rhagor yn y llys heddiw.""Daeth yn amlwg yn ei dystiolaeth ei fod wedi gwrthod mynediad i orsaf radio Sir Gar i gyfreithiwr yr amddiffyn a ofynnodd am gael gweld llefydd y digwyddiad.""Yn yr un modd, yr oedd wedi gwrthod cais gan Rhodri Glyn Thomas AC am gyfarfod i drafod defnydd Radio Sir Gar o'r Gymraeg. Gan ei fod yn gwrthod trafod amharodrwydd yr orsaf i ddefnyddio'r Gymraeg, rhaid oedd wrth ymgyrch o weithredu uniongyrchol."Stori oddi ar wefan y Western Mail