Annog ymgyrchwyr i frwydro gyda phob ysgol unigol!

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhelir am 7pm heno yng Ngwesty Llwyn Iorwg (Ivy Bush) Caerfyrddin bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol o bob cwr i ymuno a phob cymuned leol yn y sir pan fygythir yr ysgol.

Dywed Aled Davies, (Cadeirydd y cyfarfod a fynychir gan ymgyrchwyr, llywodraethwyr, cynghorwyr a rhai Aelodau Cynulliad):"Os nad yw'r Cyngor am ganiatau dadl trwy'r sir ar holl gyfeiriad eu strategaeth Addysg, yna bydd yn rhaid i ymgyrchwyr o bob rhan o'r sir deithio i gefnogi pob ysgol unigol a gaiff ei bygwth.""Honna'r Cyngor na bydd cau ysgolion heb ymgynghori llawn. Ond maent yn gwthio trwodd eu strategaeth i ganoli Addysg a chau ysgolion heb drafodaeth. Yr unig ymgynghori fydd ynghylch sut i weithredu'r strategaeth osod hon mewn cymunedau unigol ar y diwrnod mawr pan ddaw'r brain o'r Cyngor Sir i ddisgyn ar ysgol am ymgynghori ffug."Disgwylir mai yn Llansadwrn y bydd un o'r brwydrau cyntaf. Yna y mae llywodraethwyr wedi cyhoeddi y byddant yn brwydro'n erbyn awydd y Cyngor i gau'r ysgol. Disgwylir y daw nifer sylweddol o ymgyrchwyr i'r pentref ar ddiwrnod yr unig gyfarfod ymgynghori statudol.