Cyfarfu nifer o fudiadau Cymreig ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau diwethaf i drafod sut i bwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Iaith gryfach. Mynychwyd y cyfarfod, oedd wedi ei drefnu ar y cyd gan Urdd Gobaith Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg gan UCAC, UMCA, UMCB, Mudiad Yagolion Meithrin, Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Cymuned.
Hefyd, yn ystod yr wythnos cafwyd datganiad gan Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg gan ofyn am welliannau fydd yn ei gwneud yn fwy perthnasol i fywydau pobl Cymru heddiw.Nôd y mudiadau yw trefnu digwyddiad mawr ar y cyd er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith. Byddant yn cyfarfod eto ymhen y mis i drafod y mater ymhellach.Tra roedd y cyfarfod hwn yn cwrdd ar Faes yr Eisteddfod yr oedd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei gadeirio yn y Pafiliwn ac yn gwisgo crys t yn galw am Ddeddf Iaith Newydd yn ystod y seremoni.Dywedodd Hywel Griffiths ar ôl y cyfarfod:"Mae'n ddiddorol i'r cyfarfod hanesyddol hwn oedd yn dod a chynifer o fudiadau Cymreig at ei gilydd i alw am Ddeddf Iaith gael ei gynnal ar yr un diwrnod ag y gwnaeth Carwyn Jones y Gweinidog Addysg a Diwylliant newydd ei ddatganiad yn dweud nad oedd yn gweld yr angen am Ddeddf iaith o gwbwl. Dengys hyn gymaint mae'r Blaid Lafur wedi colli cysylltiad â phobl Cymru a synhwyrwn y bydd yn rhaid i Carwyn Jones newid ei safbwynt yn fuan iawn."