Llys droseddol mewn sesiwn ar faes yr Urdd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAm y tro cyntaf erioed, cynhelir Llys Droseddol ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf. Trefnir y Llys Iawnderau Cymunedol gan Gymdeithas yr Iaith am 12.00 Llun 28ain Mai tu allan i uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes.

Y diffinyddion fydd Mark James (Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Gâr), Vernon Morgan (Cyfarwyddwr Addysg), Cyng Meryl Gravell (Arweinydd y Cyngor), Cyng Martin Morris (Arweinydd y Grwp Llafur)Cyhuddir y pedwar o DWYLL yn y broses ymgynghorol am ddyfodol ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo’r pedwar o fod wedi penderfynu ymlaen llaw – am resymau ariannol – i werthu’r ysgolion hyn cyn dechrau ymgynghori am eu dyfodol a bod yn broses ymgynghori felly’n anonest ac yn gyfystyr a thwyll.Y barnwr fydd Prifardd yr Urdd Hywel Griffiths (enillydd cadair yr Urdd ym Môn 2004) a fydd yn traddodi ei ddedfryd ar ffurf farddonol. Yr erlynydd fydd Ffred Ffransis, sy’n cyfnewid ei swydd arferol mewn llysoedd fel diffinydd i fynd i’r ochr arall y tro hwn.Tystion yr Erlyniad fydd Matt Dix (Rhiant ac Isgadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Mynyddcerrig y mae’r Cyngor wedi penderfynu ei chau ar ddiwedd y tymor hwn), Ioan Hefin (Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgrifennydd Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr) a Meinir Ffransis (Cyn-Ysgrifennydd Cyfeillion Ysgol Llanfihangel-ar-arth a gaewyd 4 mlynedd yn ôl.)Yr ydym wedi cael sicrwydd y bydd o leaif un o’r diffinyddion – y Cyng Meryl Gravell – yn ymddangos yn y llys ar ryw ffurf neu’i gilydd !