Fe wnaeth dwsin o aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am nwyddau yn siop Marks and Spencers yn Nhostre, Llanelli, heddiw gan adael eu nwyddau yn eu troliau siopa a cherdded allan. Gosodwyd poster ar y basgedi yn dweud: "Roeddwn yn bwriadu prynu y cynnyrch yma heddiw ond oherwydd nad ydych yn dangos parch at yr iaith Gymraeg rwyf wedi newid fy meddwl."Roedd y brotest yma yn ail greu protest a fu yn erbyn polisi sarhaus y cwmni at y Gymraeg yn nol yn 1995. Ym 1994 fe agorwyd siop Marks & Spencer yn Stryd Vaughan, Llanelli ac fe siomwyd Cymry Llanelli a'r fro yn fawr pan osodwyd arwyddion uniaith Saesneg i fyny yn Adran Fwyd. Er i bobl ymweld a'r Rheolwr, ysgrifennu ato a llythyru prif swyddfa'r cwmni droeon ynglyn a'r diffyg arwyddion Cymraeg, ni chafwyd ymateb ffafriol. Felly, ym mis Mehefin 1995 penderfynodd nifer o bobl brotestio ac ymgyrchu trwy lenwi eu troliau a nwyddau ac yna wrthod eu prynu. Bu'r brotest yn lwyddianus ac ychydig fisoedd ar ol hynny gosodwyd arwyddion dwyieithog i fyny yn y siop.Yn ystod y blynyddoedd diwethaf symudodd M&S i Barc Trostre, ond yn hytrach na dysgu oddi wrth gamgymeriadau'r gorffenol, penderfynodd M&S i sarhau'r Gymraeg unwaith eto gan osod arwyddion uniaith Saesneg yn y Neuadd fwyd.Dywed Hazel Evans a fu'n rhan o'r brotest wreiddiol yn 1995 ac sydd yn aelod o'r gell lleol o Gymdeithas yr Iaith:"Y tro hwn, fel o'r blaen, mae nifer fawr o bobl wedi gofyn am gael siarad a'r rheolwr ynglyn a'r mater ac mae nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith a changhennau o Fudiad Merched y Wawr wedi llythyru'r Cwmni dros gyfnod o flwyddyn a hanner a mwy, ond heb gael ymateb heb son am gefnogaeth. Felly, heddiw, ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Ragfyr, 2010, rydym wedi cael ein gorfodi i gynnal protest unwaith eto."
"Mae'n dorcalonnus, wedi i ni ennill y frwydr hon yn y 90au ein bod ni eto yn gorfod brwydro am rhywbeth mor elfenol ag arwyddion dwyieithog mewn siop sydd yn gwasanaethu cymuned lle y mae dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg."Dywedodd Ceri Phillips, Cadeirydd grwp 'Hawliau Iaith' Cymdeithas yr Iaith"Mae hyn yn engraifft amlwg o'r angen am ddeddfwriaeth newydd fydd yn cynnwys yr holl sector breifat yn arbennig felly y siopau ar y stryd fawr. Mae mawr angen normaleiddio'r iaith ac ei wneud yn iaith weledol cyfartal a'r Saesneg. Rydym yn gyson yn darllen am y cynydd enfawr yn y ddarpariaeth mewn addysg Gymraeg. Ond heb fod disgyblion o deuluoedd di-Gymraeg yn gweld yr iaith y tu allan i'r dosbarth, iaith y dosbarth yn unig fydd hi. Mae yna gyfrifoldeb ar ein llywodraeth i wthio am ehangu cylch y mesur iaith i gynnwys y sector breifat er mwyn rhoi wir cyfle i wireddu eu haddewid o fewn y ddogfen 'Iaith Pawb' o greu Cymru Ddwyieithog."