Targedu siop Morrisons ym Mangor

Archfarchnad MorrisonsCafodd siop Morrisons ym Mangor ei dargedu heddiw ar ddiwedd protest yn galw am Ddeddf Iaith, gan tua 250 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe ddechreuodd y brotest wrth y cloc yn y dre cyn i'r protestwyr orymdeithio at y siop ym Mangor Uchaf.Pan gyrhaeddodd y protestwyr Morrisons fe feddianwyd y siop, ac eisteddodd y 250 o brotestwyr wrth y fynedfa. Cafodd Gwenno Teifi, Stiwart Edwards a Bethan Willams eu harestio am lynnu posteri at ffenestri'r siop, a oedd yn esbonio i’r cyhoedd beth oedd yn digwydd.

Bu'r Gymdeithas yn cynnal trafodaethau gyda Morrisons ac yn galw arnynt i fabwysiadu polisi dwyieithog. Ond nid yw'r cwmni wedi cadw at ei air.Dywedodd Dewi Snelson, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y gogledd:"Yn ol ym mis Tachwedd fe fum i a Ffred Ffransis i gwrdd ag uchel swyddogion Morrisons yn Bradford. Cawsom ar ddeall yn y cyfarfod hwnnw y byddai'r cwmni yn mabwysiadu polisi dwyieithog ond nid oes dim wedi digwydd. Yn benodol yr oeddem wedi gofyn i'r siop weithredu fel a ganlyn:1. Holl arwyddion parhaol Morrisons i fod yn ddwyieithog2. Dylai llenyddiaeth hyrwyddo'r cwmni fod yn ddwyieithog3. Galwyd ar i Morrisons ymgynghori gyda'r colegau lleol er mwyn sicrhau fod staff ar gael sy'n gallu gweithio yn y ddwy iaith4. Dylai labeli'r nwyddau hynny a baratoir gan Morrisons fod yn ddwyieithog5. Dylai negesuon cyhoeddus a draddodir dros uchelseinydd y siop fod yn ddwyieithog6. Dylai'r adrannau hynny sydd ar wefan y cwmni fod yn ddwyieithog7. Dylent wneud defnydd llawn o gynyrch lleol Cymreig yn eu siopau."Dywedodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac arweinydd y brotest:"Mae'r ffaith fod Morrisons wedi methu a chadw eu gair a gweithredu polisi dwyieithog yn brawf o'r angen am Ddeddf iaith Newydd. Yr ydym felly yn galw ar i bob un o'r pleidiau gwleidyddol ymrwymo i gefnogi Deddf Iaith fydd yn mynnu fod y Gymraeg yn cael lle cydradd â'r Saesneg yn y sector breifat."Roedd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngholeg Bangor a Hywel Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg yn siarad yn y brotest.Three arrested in language protest - Daily Post, 29 Ion 2007Three Welsh language activists arrested - Western Mail, 29 Ion 2007Protest iaith: Arestio tri - Newyddion BBC Cymru, 27 Ion 2007Language demo: 3 arrested - Wales on Sunday, 28 Ion 20073 protesters arrested at supermaket blockade - Indymedia, 28 Ion 2007Arrests at store language protest - BBC Wales News, 27 Ion 2007Welsh language demo on Saturday - News Wales, 25 Ion 2007lanua20070129.jpgLéirsiú Breatnaise ag Cymdeithas - La Nua (Gwyddeleg), 29 Ion 20072protest-din-bangor-ion07.jpg4protest-din-bangor-ion07.jpg8protest-din-bangor-ion07.jpg9protest-din-bangor-ion07.jpg3protest-din-bangor-ion07.jpg5protest-din-bangor-ion07.jpg6protest-din-bangor-ion07.jpg7protest-din-bangor-ion07.jpg10protest-din-bangor-ion07.jpg11protest-din-bangor-ion07.jpg12protest-din-bangor-ion07.jpg14protest-din-bangor-ion07.jpg13protest-din-bangor-ion07.jpg