Deddf Iaith

Gwenno'n ôl yn ymgyrchu!

O fewn dwy awr i'w rhyddhau o garchar yn Swydd Gaerloyw bore fory (Mercher 11eg Gorff) bydd Gwenno Teifi'n ol yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith rymus wrth ymweld a'r Senedd ym Mae Caerdydd, gyda chynllun wedyn i annerch protest fawr gan y Gymdeithas yn y gogledd.poster-gwenno-porthmadog.jpg

Thomas Cook yn dal ganrif ar ei hol hi

Thomas Cook ban WelshMae Cymdeithas yr Iaith yn deall fod Thomas Cook wedi diddymu'n ymarferol eu "Welsh Not" ymhlith eu staff. Os yw hyn yn wir, mae'n dod a nhw o'r 19eg ganrif i'r 20ed ganrif. Maent yn dal i gyhoeddi popeth a chyflawni eu gwaith gweinyddol oll yn Saesneg. Mae angen Deddf Iaith gref yn awr i'w tynnu o'r 20ed Ganrif i'r 21ain Ganrif.

Gwenno Teifi yn derbyn 5 niwrnod o garchar

Gwenno TeifiAnfonwyd Gwenno Teifi i garchar Eastwood Park, swydd Gaerloyw am 5 diwrnod am wrthod talu dirwy o £120 am beintio slgan yn galw am Ddeddf Iaith ar ffenest siop esgidiau Brantano yn Aberystwyth yn ôl ym mis Hydref 2006.

Gwrthod canlyniad arolwg y BBC

BBC a'r CBIMae Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthod canlyniadau arolwg gan y BBC sy'n awgrymu fod mwyafrif yn gwrthwynebu Deddf Iaith a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i gorfforaethau wneud defnydd llawn o'r Gymraeg. Roedd gwrthwynebiad 63% o'r rhai a holwyd yn ganlyniad i benderfyniad y BBC i ddefnyddio y gair emotif "gorfodi".

Croesawu Ymrwymiad Clymblaid i'r Gymraeg

Rhodri Morgan a Ieuan Wyn JonesMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu yr ymrwymiad i Ddeddf iaith Newydd sydd yn y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Deddf Iaith Ddiwerth - Dim Diolch!

Protest Senedd CaerdyddDyma gopi o lythr a ddanfonwyd at yr holl Aelodau Cynulliad cyn y drafodaeth ar y Gymraeg heddiw 27/06/07.Annwyl Aelod Cynulliad,Neges brys gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglyn a?r drafodaeth yn siambr y Cynulliad, Dydd Iau, Mehefin 26ain 2007 ar wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol.Er bod y tirlun gwleidyddol yn ansicr ar hyn o bryd rydym yn croesawu bod y drafodaeth bwysig yma ar statws yr

Gwrthdystiad Iaith yn dod i ben

Protest Senedd CaerdyddAr ôl sefyll tu allan i Senedd y Cynulliad am dair awr, daeth protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd i ben am un o'r gloch heddiw. Bu'r protestwyr yn arddangos posteri a baner 'Deddf Iaith WAN - Dim Diolch' a dosbarthwyd taflenni.

Deddf Iaith Wan - Dim Diolch!

Senedd CaerdyddRhwng 10am a 1pm heddiw, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lawnsio cyfnod newydd yn ei hymgyrch dros ddeddf iaith newydd i’r Gymraeg.

Protestiadau Thomas Cook yn llwyddiant

Thomas Cook ban WelshCafwyd ymateb da i'r protestiadau gynhaliwyd yn erbyn cwmni Thomas Cook heddiw. Trefnwyd y protestiadau gan Gymdeithas yr Iaith ar ôl clywed fod y cwmni yn gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg.

Protest Thomas Cook Bangor, Caerfyrddin a Chaerdydd

protest-thomas-cook.jpgRhwng 1 a 2 o'r gloch heddi (dydd Gwener Mehefin 15) fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i siop Thomas Cook ym Mangor oherwydd polisi'r cwmni hwnnw o wahardd staff rhag defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Ar yr un pryd fe fydd protestiadau bach eraill yn cael eu cynnal tu allan i siop y cwmni yn Heol y Frenhines, Caerdydd ac yng Nghaerfyrddin.