Croesawu Ymrwymiad Clymblaid i'r Gymraeg

Rhodri Morgan a Ieuan Wyn JonesMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu yr ymrwymiad i Ddeddf iaith Newydd sydd yn y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Dafydd Lewis swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Ymddengys fod yna ymrwymiad yn y cytundeb i weithio ar y cyd i sicrhau Deddf Iaith fydd yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg, yn cydnabod yr hawl i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, yn cydnabod yr hawl i weithio yn Gymraeg, yn cydnabod yr hawl i addysg Gymraeg ac yn sefydlu'r swydd o Gomisiynydd Iaith i Gymru.""Wrth gwrs, rhaid cofio mai addewidion ar bapur sydd gennym ar hyn o bryd ac yr ydym yn rhagweld y bydd yna lawer o drafod caled cyn cael y maen yn derfynol i'r wal. Nid ydym am weld pasio Deddf iaith ddiwerth ar ôl yr holl ymgyrchu.""Mae'n ddiddorol fod yr ymrwymiad yma gan Blaid Cymru a'r Blaid Lafur i'r iaith Gymraeg, yn ogystal a chefnogaeth y pleidiau eraill i'r iaith mewn dadl yn y Cynulliad ddoe, yn dod wrth i gwmni Adecco yng Nghaerdydd osod gwaharddiad ar y staff rhag siarad Cymraeg. Mae'r weithred hon fel un debyg Thomas Cook rai wythnosau'n ôl yn profi mor llipa yw'r ddeddfwriaeth bresennol."Bydd protestiadau Cymdeithas yr Iaith yn erbyn cwmni Thomas Cook yn parhau gyda phiced yn erbyn siop y cwmni ym Mangor am 1 o'r gloch dydd Sadwrn Mai 30ain.