Deddf Iaith Ddiwerth - Dim Diolch!

Protest Senedd CaerdyddDyma gopi o lythr a ddanfonwyd at yr holl Aelodau Cynulliad cyn y drafodaeth ar y Gymraeg heddiw 27/06/07.Annwyl Aelod Cynulliad,Neges brys gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglyn a?r drafodaeth yn siambr y Cynulliad, Dydd Iau, Mehefin 26ain 2007 ar wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol.Er bod y tirlun gwleidyddol yn ansicr ar hyn o bryd rydym yn croesawu bod y drafodaeth bwysig yma ar statws yr iaith Gymraeg yn digwydd.

Credwn fod cyfle hanesyddol gan y Cynulliad a'i grymoedd newydd i roi cyfle i'r Gymraeg ond rhybuddiwn fod perygl hefyd y byddai cyflwyno cais am Ddeddf Iaith wan, na fyddai'n mynd i'r afael ag anghenion y sefyllfa, yn waeth na gwneud dim byd a hynny am ddau reswm. Yn un peth gallai deddf iaith wan rwystro'r ffordd am ddegawd arall rhag cael deddfwriaeth bwrpasol i gryfhau'r Gymraeg. Yn ail, fel un o'r ceisiadau cyntaf am Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol gallai deddf iaith wan gadarnhau'r ddelwedd sydd gan rywrai yng Nghymru o Gynulliad gwan yn pasio mesurau gwan ac felly yn wastraff ar amser.Ein cais ni felly yw i chi gefnogi camau i sicrhau mesur iaith gref sy'n cynnwys tair elfen allweddol;1) i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol ? cam symbolaidd ond hynod o bwysig o ran cael gwared ar statws israddol ac ansicr presennol yr iaith Gymraeg.2) sefydlu Comisiynydd i'r Iaith Gymraeg ar batrwm Comisiynydd Plant Cymru.3) sefydlu hawliau sylfaenol i bawb yng Nghymru fedru defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Byddai sefydlu hawliau o'r fath a hynny ar draws y sector gyhoeddus, breifat a gwirfoddol yn gydnaws â deddfau diweddar ym meysydd cydraddoldebau rhywioldeb ac anabledd lle cwmpasir pob sector. Cydnabyddwn o ran hawliau i ddefnyddio?r Gymraeg yn y sector breifat y byddai angen gweithredu'r ddeddf mewn modd incremental gan gychwyn gyda cwmniau mawr rhyngwladol a siopau cadwyn yn gyntaf, cyn ymdreiddio lawr i'r busnesau canolig a bychain ymhen amser gyda chefnogaeth o?r Llywodraeth.Fel cam cyntaf, erfyniwn am eich cefnogaeth i alw am sefydlu pwyllgor sgriwtineiddio trawsbleidiol. Dylai?r pwyllgor hwn drafod manylion llunio cais am Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ym maes y Gymraeg i'w gyflwyno o flaen y Cynulliad fyddai?n cynnwys y tri phwynt sylfaenol uchod.Am fanylion pellach am ein hargymellion gallwch dddarllen Mesur Iaith 2007 sydd ar gael ar ein safle we.Yn gywir,Rhun Emlyn (Cadeirydd Grwp Deddf iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)