Gwrthod canlyniad arolwg y BBC

BBC a'r CBIMae Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthod canlyniadau arolwg gan y BBC sy'n awgrymu fod mwyafrif yn gwrthwynebu Deddf Iaith a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i gorfforaethau wneud defnydd llawn o'r Gymraeg. Roedd gwrthwynebiad 63% o'r rhai a holwyd yn ganlyniad i benderfyniad y BBC i ddefnyddio y gair emotif "gorfodi". O ddefnyddio gair mor niweidiol, mae'r BBC wedi rhoi hwb i ymgyrch y CBI sy'n gwrthwynebu rhoi hawliau ieithyddol i bobl Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Hywel Griffiths:"Mae gan gymdeithasau cyflogwyr megis y CBI record o wrthod o flaen llaw unrhyw ddeddfwriaeth sy'n diwygio, boed yn sefydlu isafswm cyflog, parch i'r amgylchedd neu nawr yr angen i barchu'r Gymraeg. Mae'n wybodaeth gyffredin yng nghylchoedd PR fod defnyddio termau niweidiol a negyddol megis 'gorfodi' mewn arolwg yn sicrhau ymateb negyddol gan y cyhoedd. Os byddai'r cwestiwn yn cael ei arall eirio i ddefnyddio termau mwy cadarnhaol megis 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog' neu 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n rhoi hawliau llawn i bobl dderbyn gwasanaethau yn ddwyieithog' yna yr ydym yn sicr y byddai mwyafrif pobl Cymru o blaid.""Rydym ni methu deall pam fod y BBC wedi dewis cyfaddawdu ar ei ddidueddrwydd a gwneud gwaith lobio'r CBI iddynt trwy ddefnyddio geiriad mor niweidiol. A gafodd yr arolwg ei gynnal mewn Saesneg yn unig? Byddai hyn unwaith eto yn niweidio'r canlyniad mewn cymuned ddwyieithog. Y peth mwyaf arwyddocaol am yr arolwg yma ydy fod cymaint yn teimlo cyn-gryfed ar y pwnc nes i draean o'r rhai a gwestiynnwyd ymateb yn gadarnhaol, er y geiriad negyddol, a bod chwarter am fynd hyd yn oed yn bellach na Chymdeithas yr Iaith trwy osod gofyniad yn syth ar bob cwmni yng Nghymru. Yn y cyswllt hwn, mae ei cynllun o weithredu 'incremental' er mwyn sicrhau gwasanaethau dwyieithog yn y sector breifat yn un cymhedrol iawn."