Gwrthdystiad Iaith yn dod i ben

Protest Senedd CaerdyddAr ôl sefyll tu allan i Senedd y Cynulliad am dair awr, daeth protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd i ben am un o'r gloch heddiw. Bu'r protestwyr yn arddangos posteri a baner 'Deddf Iaith WAN - Dim Diolch' a dosbarthwyd taflenni.

Fe gafwyd cyfarfodydd i drafod mater Deddf iaith gyda Mr Ieuan Wyn Jones a Nick Bourne lle pwysleisiwyd yr hyn yr oedd y Gymdeithas am ei weld mewn Deddf Iaith. Cyflwynwyd llythyrau hefyd i Mike German a Rhodri Morgan.Yn y llythyrau hyn mae'r Gymdeithas yn pwysleisio fod yn rhaid i unrhyw Ddeddf newydd roi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, creu swydd Comisiynydd Iaith a sicrhau hawliau ieithyddol penodol i siaradwyr Cymraeg ym mhob sector. Rhaid sicrhau, mewn unrhyw drafodaeth nad yw'r ddeddf a gawn yn un wan.Un o arweinyddion y brotest oedd Gwenno Teifi gafodd ei charcharu llynedd am ei rhan yn yr ymgyrch Deddf iaith. Mae hi yn wynebu achos llys arall am ei rhan yn yr un ymgyrch ar Orffennaf 9ed.Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn ddiweddar mae agwedd warthus Thomas Cook at yr iaith Gymraeg wedi dangos yn glir yr angen am ddeddfwriaeth newydd."Pwyswch yma i ddarllen y llythr a ddanfonwyd at yr arweinwyr (pdf)Pwyswch yma i weld slogan ymgyrchu newydd y Gymdeithas ar ffurf poster (pdf)01cynulliad180607.jpg02cynulliad180607.jpg03cynulliad180607.jpg04cynulliad180607.jpg05cynulliad180607.jpg06cynulliad180607.jpg07cynulliad180607.jpg08cynulliad180607.jpg09cynulliad180607.jpg10cynulliad180607.jpg11cynulliad180607.jpg12cynulliad180607.jpg