Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda'r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor.
Mae Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn cyhoeddi heddiw ei bod yn rhoi tri diwrnod i'r cwmni teithio Thomas Cook newid ei feddwl ar fater gwahardd y staff rhag siarad Cymraeg.
Ar ddydd Llun, 11fed o Fehefin bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod a rheolwyr Prydeinig archfarchnad Morrisons ym mhencadlys y cwmni ym Manceinion. Byddant yn trafod galwadau Cymdeithas yr Iaith ar i Morrisons ddatblygu strategaeth genedlaethol er mwyn darpau gwasanaethau a nwyddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl y bydd y cwmni teithio Thomas Cook yn tynnu nôl yn fuan iawn oddi wrth ei safiad ar ganiatau i staff siarad Cymraeg yn ystod oriau gwaith. Os na fydd hyn yn digwydd, cynhelir protest fawr o flaen eu swyddfa ym Mangor am 1pm dydd Gwener (15/06).
Cyfarfu nifer o fudiadau Cymreig ar Faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Iau diwethaf i drafod sut i bwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Iaith gryfach.
Mae Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg. Nod yr Urdd yw sicrhau y cyfle trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru i ddatblygu’n unigolion cyflawn, a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw heddiw ar Blaid Cymru ac ar y Rhyddfrdwyr Democrataidd i sicrhau na chaiff Llafur Newydd fynd yn ei blaen i anwybyddu'r Gymru Gymraeg yn dilyn ei chwalfa yn yr Etholiad.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon enwau 59 o gwmniau preifat ddylai fabwysiadu polisi dwyieithog cyflawn at Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae hyn yn dilyn penodi Ifan Evans fel swyddog cyflogedig ar y Bwrdd Iaith gyda chyfrifoldeb arbennig dros y sector breifat.
Ar Ddydd Sadwrn 24 Chwefror bydd Gwyn Sion Ifan, Sel Jones a Huw Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn teithio i Belfast i fynychu gwrthdystiad dros Ddeddf Iaith Gwyddeleg i ogledd Iwerddon, ac i ddatgan cefnogaeth i’r 160,000 o siaradwyr yr Wyddeleg yn y gogledd. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, bydd cyngherddau a digwyddiadau ieithyddol eraill yn cyd-fynd â hi.