Ar Ddydd Sadwrn 24 Chwefror bydd Gwyn Sion Ifan, Sel Jones a Huw Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn teithio i Belfast i fynychu gwrthdystiad dros Ddeddf Iaith Gwyddeleg i ogledd Iwerddon, ac i ddatgan cefnogaeth i’r 160,000 o siaradwyr yr Wyddeleg yn y gogledd. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, bydd cyngherddau a digwyddiadau ieithyddol eraill yn cyd-fynd â hi. Mae'r Gymdeithas eisioes wedi danfon neges o gefnogaeth at drefnwyr yr orymdaith.
Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith y Gymdeithas:"Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gefnogi’r rali yn Belfast. Mae ein hymgyrch ni dros ddeddf iaith newydd yng Nghymru yn rhan o fudiad byd-eang i sicrhau hawliau dynol sylfaenol i bobloedd y byd. Wrth fynnu ein hawliau ni i bobl Cymru, rydyn ni’n sefyll gydag eraill fel siaradwyr yr Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon wrth iddynt fynnu eu hawliau nhw drwy ddeddfwriaeth."Bydd yr orymdaith yn cychwyn ger y ganolfan ddiwylliant a chelf 'Cultúrlann McAdam Ó Fiaich' am 1pm, cyn gorymdeithio draw i 'Poets Square' yng nghanol Belfast, lle y'i cyferchir gan Janet Muller, Prif Weithredwraig POBAL, Cymdeithas ymbarel yr iaith Wyddeleg; Gerry Adams, Llywydd Sinn Féin; Cynrychiolwyr yr SDLP, ac aelodau blaenllaw sefydliadau Gaeleg eraill.Cynnwys y neges o gefnogaeth a ddanfonwyd at drefnwyr yr orymdaith yw:"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dymuno yn dda i chi yn eich protest dros hawliau i'r Wyddeleg yn Béal Feirstre dydd Sadwrn. Yr ydym ni yma yng Nghymru yn ymladd dros gryfhau Deddf yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd fel bod y Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg. Credwn fod gan siaradwyr Gwyddeleg yng ngogledd Iwerddon yr hawl i ddisgwyl yr un hawliau ieithyddol a siaradwyr Saesneg y rhanbarth. Edrychwn ymlaen at gael cydweithio er mwyn sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a'r Wyddeleg."Mae’r mudiad iaith ymbarél POBAL - www.pobal.org - yn gweithio ers tair blynedd ar ddeddf iaith ac maen nhw wedi cyflwyno cynigion manwl a drafft o ddeddf a fyddai’n rhoi statws swyddogol i’r iaith yng Ngogledd Iwerddon, hawliau i siaradwyr yr Wyddeleg i ddefnyddio’r iaith ym maes addysg, y llysoedd, y cyfryngau, sefydliadau gwleidyddol, y gweithle etc. a byddai’n sefydlu swydd Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg a chorff cynllunio.Yr Wyddeleg yw iaith swyddogol gyntaf Gweriniaeth Iwerddon. Yn 2003 pasiodd y Weriniaeth y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol. Yn Ionawr 2007 daeth yr Wyddeleg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Ní géilleadh go hAcht Gaeilge, La Nua, 26/02/2007Hundreds take to the streets to demand equal rights for Irish, irelandclick.com, 26/02/2007Mo cheol sibh! irelandclick.com, 26/02/2007Rally to demand Irish Language Act for the Six Counties, anphoblacht.com, 16/02/2007