59 o esgusodion dros beidio cyflwyno Deddf Iaith

alun_pugh.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymosod ar gyhoeddiad Alun Pugh ei fod yn ymgynghori â 59 o gyrff ynglyn a mabwysiadu polisi iaith.

Meddai Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Beth sydd gyda ni mewn gwirionedd yw 59 o esgusodion dros beidio a chyflwyno Deddf Iaith Newydd. Mae'n amlwg fod Alun Pugh ar drothwy etholiadau'r cynulliad yn ceisio twyllo pobl Cymru fod y Blaid Lafur o ddifri ynglyn ar iaith Gymraeg. Mae'n amlwg i bawb erbyn hyn fod ymrwymiad y Blaid Lafur i'r iaith Gymraeg yn llawer gwanach nac ymrwymiad y gwrthbleidiau, ac ymgais i daflu llwch i'n llygaid yw'r cyhoeddiad diweddaraf hwn gan lywodraeth y Cynulliad.""Bydd yn rhaid i'r Blaid Lafur ddatgan cefnogaeth i Ddeddf Iaith newydd fydd yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg cyn y gallwn ei chymryd o ddifri ar bwnc y Gymraeg byth eto."Estyn Deddf Iaith?: 59 o gyrff - BBC Cymru, Dydd Iau, 22 Mawrth 2007