Deddf Iaith

Barnwr i gwyno wrth yr heddlu am fod gwys yn uniaith Saesneg

Angharad BlythePrynhawn yma yn Llys Ynadon Caerdydd cafodd achos Llys yn erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg.

Lansio Deiseb yn galw am Ddeddf Iaith Newydd

Ble mae'r Gymraeg?Am 1pm heddiw, tu allan i Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.

Codi baner Deddf Iaith ar bontydd

Bydd y faner yn mynd ar daith o amgylch Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf gan alw draw i Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ac i achos llys Angharad Blythe yng Nghaerdydd ar y 6ed o Fehefin.Mae Angharad yn gwynebu achos o ddifrod troseddol yn erbyn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn gweithred ym mis Rhagfyr pan beintiwyd slogan ar Bencadlys y Llywodraeth ym Mharc Cathays yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Ymateb Bwrdd yr Iaith - Dilysrwydd pellach i'r angen am Ddeddf Iaith Newydd

Heddiw, cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu hymateb i'r Papur Ymgynghorol ar uno Bwrdd yr Iaith gyda'r Cynulliad. Mae eu hymateb yn pwysleisio nad yw'r Dyfarnydd a ddaw yn lle'r Bwrdd yn gorff â digon o statws a grym.

Anrhydeddu Eileen Beasley

hysbyseb_gwe_125.gifMae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg anrhydeddu Eileen Beasley yn yr Wyl Fawr i Ddathlu'r Gymraeg a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 2 o'r gloch Dydd Sadwrn Mehefin 10fed.

Aelodau yn holi Alun Pugh yn y Fforwm Iaith

alun_pugh.jpgHolwyd y Gweinidog Iaith a Diwylliant, Alun Pugh, yn galed yn Abertawe neithiwr yn ystod cyfarfod o'r Fforwm Iaith. Yn ystod cyfnod o ymgynghori'r llywodraeth ynglŷn â diddymu Bwrdd yr iaith Gymraeg, galwodd yr aelodau am ddeddf iaith newydd a thynnwyd sylw'r gweinidog at yr ŵyl fawr dros Ddeddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin.

Arestio 2, 11 yn derbyn dirwy yn y man a'r lle

Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw, a dirwywyd 9 arall £80 yn y man a'r lle ar ol iddynt gadwyno eu hunain i adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon. Buont yno ers 11.30am y bore 'ma yn gweiddi 'Deddf Iaith newydd', ac yn arddangos baneri.

Arestio 9 aelod ar ol protest gadwyno

Am 12.30 prynhawn heddiw arestiwyd naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd wedi cadwyno eu hunain at ddrws blaen yr Hen Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays. Penderfynodd y protestwyr gadwyno eu hunain at adeilad y llywodraeth er mwyn hoelio sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Protest Siop 'Blacks', Betws y Coed

BlacksBu dros 20 o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn protestio tu fewn i siop Blacks ym Metws-y-Coed heddiw, wedi i aelod o staff yno geryddu Dilwyn Llwyd o Gaernarfon, am siarad Cymraeg. Yn dilyn y brotest, fe ddatganodd yr ymgyrchwyr y bydd mwy o brotestiadau, os na fydd rheolwyr y siop gadwyn yn barod i gynnal cyfarfod i drafod ei polisi iaith.

Cymdeithas Peldroed Cymru - Dal i weithredu'r Welsh-Not

FAWMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'n hallt Ysgrifennydd Cyffredinol yr FAW, David Collins a Chyngor yr FAW oherwydd eu polisi gwrth-Gymraeg, Saesneg yn unig, enghraifft arall o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.Atebodd John Pritchard, Ysgrifenydd Cynghrair Caernarfon a'r Cylch, lythyr yn ddiweddar oddiwrth yr FAW, yn Gymraeg, ac er syndod a siom iddo dderbyniodd yr ateb canlynol:"I can infom you that the Football Ass