Prynhawn yma yn Llys Ynadon Caerdydd cafodd achos Llys yn erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg.
Beiodd y barnwr yn yr achos Heddlu De Cymru am hyn a dywedodd y byddai yn anfon cwyn swyddogol atynt. Cyhuddodd yr heddlu o wyrdroi drefn gyfreithiol drwy beidio cadw at ganllawiau'r Cynllun Iaith.Angharad Blythe yw'r aelod diweddaraf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymddangos gerbron y llysoedd fel rhan o ymgyrch weithredol y mudiad drosDdeddf Iaith Newydd. Ers mis Hydref mae 40 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch weithredol hon.Bydd yr ymgyrchu yn parhau dydd Sadwrn yma (Mehefin 10). Bryd hynny, am 2 y prynhawn yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, cynhelir gwyl fawr i alw am Ddeddf Iaith Newydd. Trefnir yr wyl gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac fe'i chefnogir gan lu o fudiadau Cymreig, megis Merched y Wawr, UCAC, Plaid Cymru, Cymuned, Cylch yr Iaith ac UMCA.Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan, mae Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru. Yn ogystal, darlenir negeseuon o gefnogaeth gan Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol. Ceir anerchiadau hefyd gan aelodau o Ferched y Wawr, UCAC ac UMCA yn ogystal a chyfraniadau hwyliog gan feirydd, bandiau a rapwyr enwog.Agorir yr wyl gyda seremoni arbennig i anrhydeddu cyfraniad Eileen Beasley i fywyd Cymru. Dyma'r wraig a adnabyddir gan lawer fel Rosa Parks y mudiad iaith. Arweinir y seremoni hon gan yr Athro Hywel Teifi Edwards.