Heddiw, cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu hymateb i'r Papur Ymgynghorol ar uno Bwrdd yr Iaith gyda'r Cynulliad. Mae eu hymateb yn pwysleisio nad yw'r Dyfarnydd a ddaw yn lle'r Bwrdd yn gorff â digon o statws a grym.
Daw'r ymateb bythefnos cyn Gwyl Fawr Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd pan fydd enwogion Cymru yn datgan eu cefnogaeth dros yr angen am ddeddfwriaeth pellach ym maes y Gymraeg. Yn ôl Catrin Dafydd, Cadeirydd Grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dyma brofi eto yr angen am Ddeddf Iaith Newydd er mwyn osgoi'r amwysedd a'r dryswch a fydd yn perthyn i'r 'Corff Gweddilliol' a fydd yn bodoli am flynyddoedd wedi dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae corff arbenigol y llywodraeth ar y Gymraeg wedi beirniadu bwriadau'r Llywodraeth wrth ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae dyletswydd ar i'r llywodraeth gymryd sylw o'u hymateb.""Mae'n arwyddocaol fod Bwrdd yr Iaith wedi datgan yr angen am 'rheoleiddiwr annibynnol' yn ei hymateb heddiw i oruchwilio Cynlluniau Iaith. Dim ond trwy gael Deddf Iaith Newydd byddai modd cael Comisiynydd fel yr hyn mae'r Bwrdd yn galw amdano.""Mae'r consensws bellach yn ddiymwad. Dim ond y llywodraeth sy'n gwrthod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Deddf a fyddai'n sicrhau cyfres o hawliau i bobl Cymru ym maes y Gymraeg. Deddf a allai rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg ynghyd â chreu comisiynydd i rheoleiddio yn effeithiol."Daw ymateb Bwrdd yr Iaith i ymgynghoriad y Llywodraeth ar uno'r Bwrdd bythefnos cyn Gwyl Fawr Deddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin.Yn yr Wyl bydd datganiad gan yr Aelod Cynulliad Eleanor Burnham, yr Aelod Cynulliad Lisa Francis, Arweinydd yr Wrth-Blaid Ieuan Wyn Jones, cynrychiolwyr o fudiadau led-led Cymru yn ogystal â beirdd, bandiau a rapwyr enwog, oll yn cefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd.Pryderon cadeirydd iaith am uno - BBC Cymru'r Byd - 24 Mai 2006