Deddf Iaith

Datgan diwedd swyddogol i gyfres o weithredoedd uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith

Ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y 3ydd, yn Rali Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle, Caerfyrddin daeth cyfres o weithredoedd uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn y llywodraeth i ben.

Deddf Iaith Newydd: Rali ac yr 16eg aelod i weithredu

Am 12 o’r gloch, dydd Sadwrn y 3ydd o Rhagfyr cynhelir Rali Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle ar sgwâr y dref yng Nghaerfyrddin.

Deddf Iaith Newydd: Gwleidyddion yn cefnogi Galwad Cymdeithas yr Iaith

Am 9.45am bore yma (Gwener, 2/12/05), yn Llys Ynadon Caerdydd, cynhelir y trydydd mewn cyfres o achosion llys yn erbyn aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cymreigio Morrisons

Buodd 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn Siop Morrisons Bangor ar y 26ain o Dachwedd er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, ac er mwyn sicrhau fod archfarchnadoedd fel Morrisons yn deall hinsawdd Cymru ac yn darparu adnoddau a gwasanaeth ddwyiethog.

1 - 0 i Gymdeithas yr Iaith

Tu allan i'r LlysCafwyd 4 aelod o Gymdeithas yr iaith yn ddi-euog gan Llys Ynadon Caerdydd y bore 'ma o'r cyhuddiad o ddifrod troseddol, er iddynt gyfaddef eu bod wedi peintio'r slogan 'Deddf Iaith newydd - Dyma'r Cyfle!' ar waliau Llywodraeth y Cynulliad.

AC i gefnogi aelodau yn y Llys

Disgwylir i Owen John Thomas, yr Aelod Cynulliad a llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw i gefnogi pedair aelod o Gymdeithas yr Iaith sydd o flaen eu gwell am gymryd rhan yn ymgyrch dor-cyfraith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd.

Lansio Cyfres Achosion Llys

Gweithred Angharad a SiwanAr ddydd Mercher, y 23ain o Dachwedd bydd cyfres achosion llys aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio. Ar fore Mercher bydd pedair o ferched yn wynebu achos llys yng Nghaerdydd. Y pedair yw Lowri Larsen o Gaernarfon, Menna Machreth o Landdarog, Lois Barrar o Nelson a Gwenno Teifi o Sir Gaerfyrddin.

Arestio dwy dros Ddeddf Iaith Newydd

Gweithred Angharad a SiwanAm 7.30 o’r gloch bore heddiw, dydd Mawrth y 15fed o Dachwedd mae dwy aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi eu harestio am beintio slogannau ar waliaub adeilad llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Dyma’r chweched weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol i dynnu’r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Y 12fed aelod o Gymdeithas yr iaith wedi ei arestio

Slogan Gwyn Sion IfanAm 8.30 o'r gloch bore dydd Gwener, yr 11eg o Dachwedd arestiwyd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gwyn Sion Ifan o'r Bala. Dyma'r bumed weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol sy'n targedu Swyddfa'r Llywodraeth ym Mharc Cathays i dynnu'r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Wynebu achos Llys am wrthod llofnodi ffurflen Saesneg

Mair StuartMae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu achos llys am iddi wrthod llofnodi ffurflen uniaith Saesneg. Dydd Llun diwethaf cafodd Mair Stuart o'r Barri ei harestio am beintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd. Bwriad yr heddlu i ddechrau oedd rhoi rhybudd swyddogol iddi a'i rhyddhau.