1 - 0 i Gymdeithas yr Iaith

Tu allan i'r LlysCafwyd 4 aelod o Gymdeithas yr iaith yn ddi-euog gan Llys Ynadon Caerdydd y bore 'ma o'r cyhuddiad o ddifrod troseddol, er iddynt gyfaddef eu bod wedi peintio'r slogan 'Deddf Iaith newydd - Dyma'r Cyfle!' ar waliau Llywodraeth y Cynulliad.

Y 4 oedd Lowri Larsen o Gaernarfon, Menna Machreth o Landdarog Sir Gaerfyrddin, Lois Barrar o Nelson a Gwenno Teifi o Lanfihangel ar Arth.23-11-05-achos-din2.jpgTaflwyd yr achos allan gan nad oedd yr erlyniad wedi paratoi eu papurau mewn pryd. Dywedodd Hedd Gwynfor, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r slogan 'Deddf Iaith newydd - Dyma'r Cyfle!' wedi cael ei beintio ar waliau Llywodraeth y Cynulliad yn Caerdydd wythnos ar ôl wythnos er mwyn pwysleisio fod cyfle euraid yn awr i gael Deddf Iaith newydd, gan fod Deddfwriaeth yn gorfod mynd gerbron y Senedd i ddiddymu Bwrdd yr Iaith."23-11-05-achos-din.jpg"Mae'r Awdurdodau wedi bod yn ceisio rhuthro'r achosion hyn trwy'r Llysoedd er mwyn atal y gweithredu uniongyrchol. Maent wedi methu yn yr achos cyntaf, ac mae'n 1-0 i Gymdeithas yr Iaith. Bydd ein gweithredu yn parhau er mwyn argraffu difrifoldeb y sefyllfa ar y bobl sydd mewn grym yn y Cynulliad ac hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl Cymru."23-11-05-achos-din1.jpgYr achosion nesaf fydd:Tachwedd 30ain, 10am: Mair Stuart (Achos Pledio)Rhagfyr 1af, 2.15pm: Osian Rhys a Dafydd Morgan Lewis (Achos Llawn)Rhagfyr 2ail, 10am: Hywel Griffiths, Huw Lewis a Angharad Clwyd (Achos Llawn)"Diolchwn yn arbennig i Owen John Thomas AC am ddod i'r Llys er mwyn tystio fod Llywodraeth y Cynulliad yn atal trafodaeth ddemocrataidd ar yr angen am Ddeddf Iaith. Mae'n siwr y bydd cyfle iddo dystio eto."Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily PostStori oddi ar wefan y South Wales Echo