Am 7.30 o’r gloch bore heddiw, dydd Mawrth y 15fed o Dachwedd mae dwy aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi eu harestio am beintio slogannau ar waliaub adeilad llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Dyma’r chweched weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol i dynnu’r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Bellach, mae 15 o aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi eu harestio er mwyn hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Yr aelodau sydd wedi eu harestio yw Siwan Thomas ac Angharad Clwyd. Mae’r ddwy yn cael eu dal yn Swyddfa heddlu Canol Cerdydd ar hyn o bryd.Yn ogystal, fe wnaeth staff diogelwch y Cynulliad arestio dyn camera y rhaglen ‘Byd ar Bedwar’ a oedd yno yn ffilmio, ond cafodd ei ryddhau yn fuan wedyn yn ddi-gyhuddiad. Mae’r heddlu wedi cymryd y camera a’r tâp. Deallir fod y Byd ar Bedwar yn bwriadu gwneud cwyn swyddogol i’r heddlu am y ffordd llawdrwm y cafodd y dyn camera ei drin.Meddai Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Galwa’r Gymdeithas am ymddiswyddiad y prif weinidog Rhodri Morgan oherwydd ei anallu ef i drafod dyfodol y Gymraeg. Mae’n amhosibl i llywodraeth Lafur y Cynulliad anwybyddu’r alwad am Ddeddf Iaith Newydd mwyach, mae consensws cyffredinol i’r angen am Ddeddf Iaith Newydd.""Oherwydd dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae’n gyfan gwbl amlwg fod angen trafodaeth ynghylch yr hyn sy’n dod yn ei le. Yn fwy na hyn, mae Deddf Iaith 1993 wedi chwythu ei phlwc ers tro. Dyw hi ddim yn berthnasol i’n bywyd ni heddiw. Dyw hi ddim yn sicrhau hawliau i’r defnyddiwr yng Nghymru.""Mae’n norm ym maes deddfwriaeth gymdeithasol i adolygu deddf bob deng mlynedd. Nid yw llywodraeth y Cynulliad yn cyflawni eu swyddogaeth am nad ydyn nhw’n barod i fynnu bod y Ddeddf gyfredol yn cael eu hadolygu. Mae nhw’n amddifadu hawliau pobl Cymru."Bydd yr ymgyrch weithredol yn parhau hyd y Nadolig gyda nifer fawr o achosion llys wedi eu pennu dros yr wythnosau nesaf.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Daily Post