Wynebu achos Llys am wrthod llofnodi ffurflen Saesneg

Mair StuartMae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu achos llys am iddi wrthod llofnodi ffurflen uniaith Saesneg. Dydd Llun diwethaf cafodd Mair Stuart o'r Barri ei harestio am beintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd. Bwriad yr heddlu i ddechrau oedd rhoi rhybudd swyddogol iddi a'i rhyddhau.

Rhoddwyd ffurflen i Mair Stuart ei lofnodi yn cydnabod ei bod yn derbyn y rhybudd. Gwrthododd wneud hyn pan sylweddolodd fod y ffurflen o'i blaen yn uniaith Saesneg.Yn hytrach na chwympo ar eu bai a derbyn nad oeddent yn gweithredu Cynllun Iaith Heddlu De Cymru fe newidiodd yr heddlu yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd y cyhuddiad yn erbyn Mair Stuart gan ei chyhuddo bellach o ddifrod troseddol a’i gorchymyn i ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ar Dachwedd 30ain. Meddai Mair Stuart:"Mae ymddygiad yr heddlu yn yr achos hwn yn gwbl warthus. Ni fyddwn wedi gorfod mynd i'r llys o gwbl pe bai gan Heddlu De Cymru ffurflenni dwyieithog. Mae'r cyfan yn dangos mor aneffeithiol yw Deddf Iaith 1993 a chymaint yw'r angen am un newydd. Yr wyf fi yn gorfod wynebu achos llys am fod hynny yn haws i'r heddlu na dod o hyd i ffurflen Gymraeg imi i'w llofnodi. Mae'r cyfan yn dangos mor ddiwerth yw eu Cynllun Iaith hefyd."Bydd yn rhaid i Mair wynebu achos llys arall ym Mis Tachwedd. Bydd hefyd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Y Barri ar Dachwedd 22ain am wrthod talu Treth y Cyngor am nad yw Cyngor Sir Bro Morgannwg yn darparu ffurflenni dwyieithog gan gynnwys yn arbennig y ffurflen budd-dal treth y Cyngor. Dywedodd Mair Stuart:"Pan ddechreuais ysgrifennu at y Cyngor yn Saesneg yn unig y byddai yn gohebu a mi. Erbyn hyn yr wyf yn cael rhyw gymaint o ohebiaeth Gymraeg oddi wrthynt, ond unwaith eto yr wyf yn cael fy hun yn y llys am nad oes rhai ffurflenni pwysig ar gael yn y Gymraeg gan y Cyngor. Mae’n hen bryd cael Deddf Iaith gadarnach fel nad yw trafferthion fel hyn yn codi o hyd ac o hyd."#Stori oddi ar wefan y Western Mail