Deddf Iaith

Merch o’r Barri yn Herio’r Llywodraeth ar Fater Deddf Iaith

Heddiw, Mair Stuart oedd yr unfed aelod ar ddeg mewn cyfres o weithredwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i baentio sloganau ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yn galw am Ddeddf Iaith newydd. Targedwyd adeilad llywodraeth y Cynulliad bron yn wythnosol ers diwedd Medi.

Mae'n amser gwrando, Mr Pugh.

Steffan CravosYn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd y Western Mail erthygl gan Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant a'r Iaith Gymraeg) a oedd yn ymosod ar aelodau Cymdeithas yr Iaith, a'u cyhuddo o wisgo 'blinkers'. Heddiw, cyhoeddodd y Western Mail ymatebiad Steffan Cravos - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Targedu Siopau a chwmniau yn yr ymgyrch Deddf Iaith Newydd

deddf_iaith_newydd.gifDros nos bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg allan yn gweithredu dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth drwy ludio sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg' a Deddf Iaith Newydd ar siopau a busnesau yn y dre.

Dirwy a chostau o dros £1,000 i'r Cadeirydd

Steffan Cravos Cafodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfanswm dirwyon a chostau o £1,025 gan Lys Ynadon Caernarfon heddiw am beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar waliau siop Morison ym Mangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Roedd wedi pledio'n ddieuog.

Cadeirydd o flaen y Llys yng Nghaernarfon

Steffan Cravos Bydd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon am 10 o’r gloch dydd Llun Hydref 24ain.

Rhaid trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd

alun_pugh.jpg Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith newydd a gynhelir am 6pm yn y 'Ganolfan' ym Mhorthmadog heno. Dyma’r corff newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac sy’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh.

Arestio 2 aelod arall yng Nghaerdydd

Mae dau aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cael eu harestio a’u hebrwng i Swyddfa’r Heddlu yng Nghaerdydd, bore 'ma.

Gweithredu uniongyrchol dros Ddeddf Iaith newydd

Yn ystod yr hanner awr ddiwethaf arestiwyd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am beintio sloganau yn datgan 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle' ar waliau pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Mwy o weithredu uniongyrchol - Deddf Iaith Newydd

Mewn rali genedlaethol yn galw am Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir am 2pm heddiw tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi y bydd gweithredu uniongyrchol cyson gan aelodau’r mudiad, rhwng nawr a’r Nadolig.

Amlinellu mesur iaith i'w gyflwyno i'r senedd

Am 2 o’r gloch prynhawn yfory (Sadwrn, Hydref 1), tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali bwysig yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.