Rhaid trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd

alun_pugh.jpg Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith newydd a gynhelir am 6pm yn y 'Ganolfan' ym Mhorthmadog heno. Dyma’r corff newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac sy’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh. Bwriad Cymdeithas yr Iaith, trwy fynychu’r cyfarfod, yw i sicrhau bod sylw’r gweinidog yn cael ei hoelio ar yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Meddai Siân Howys, Swyddog Polisi grŵp Deddf Iaith y Gymdeithas:"Dylai’r angen am Ddeddf Iaith Newydd fod yn un o’r prif faterion a gaiff ei drafod gan y fforwm newydd ac mae’n gyfrifoldeb ar Alun Pugh i hwyluso trafodaeth o’r fath.""Nawr yw’r amser i gyflwyno deddfwriaeth newydd. Mae’r penderfyniad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith wedi gadael gwagle mawr ac mae angen Deddf Iaith Newydd i lenwi’r gwagle hwnnw. Yn wir caiff pwysigrwydd yr alwad hon ei bwysleisio gan y ffaith bod unigolion megis yr arbenigwr iaith, yr Athro Colin Williams, ac hefyd cyn gadeirydd Bwrdd yr Iaith, John Elfed Jones, ymhlith y bobl hynny sydd nawr yn galw am ddeddfwriaeth newydd.""Mae peryg y bydd y fforwm iaith newydd yn troi yn ddim mwy na siop siarad gwag. Yn wir, mae’n bosib mai dyna yw dymuniad y gweinidog. Ond, trwy fod yno yn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, gobaith Cymdeithas yr Iaith yw bod modd i ni sicrhau trafodaeth ar rai o’r materion hynny sydd yn gwbwl ganolog i ddyfodol y Gymraeg."Cynhelir cyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith yn dilyn wythnos arall o weithredu uniongyrchol dros Ddeddf Iaith Newydd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ar ddydd Mawrth, arestiwyd Osian Rhys o Bontypridd a Dafydd Morgan Lewis o Aberystwyth wedi iddyn nhw baentio sloganau yn datgan ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ar wal Swyddfa Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays. Bwriad y gweithredu hwn – a fydd yn parhau hyd y Nadolig – yw i hoelio sylw Llywodraeth Lafur y Cynulliad at yr angen am Ddeddf Iaith.