Cadeirydd o flaen y Llys yng Nghaernarfon

Steffan Cravos Bydd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon am 10 o’r gloch dydd Llun Hydref 24ain.

Cyhuddwyd Steffan o ddifrod troseddol wedi iddo beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar waliau siop Morrison ym Mangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ym Mis Awst. Cyflawnodd y weithred fel ymateb i sylwadau sarhaus Rhodri Morgan ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddywedodd fod y Gymraeg yn ‘Boring, Boring, Boring.’Mae’r achos hwn yn digwydd yng nghanol cyfnod prysur o weithredu uniongyrchol dros Ddeddf Iaith gan aelodau’r Gymdeithas. Dros y mis diwethaf mae deg aelod wedi cael eu harestio am baentio sloganau yn galw am Ddedd Iaith ar waliau adeilad Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.Yn dilyn yr achos Llys bydd aelodau’r Gymdeithas yn mynd draw at adeilad Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaernarfon i gyflwyno’r neges dros Ddeddf Iaith.Steffan Cravos