Heddiw, Mair Stuart oedd yr unfed aelod ar ddeg mewn cyfres o weithredwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i baentio sloganau ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yn galw am Ddeddf Iaith newydd. Targedwyd adeilad llywodraeth y Cynulliad bron yn wythnosol ers diwedd Medi.
Mae Mair Stuart yn dod o’r Barri ym MroMorgannwg a bydd yn y llys eto ar Dachwedd 22ain yn y dre honno an wrthod talu Treth y Cyngor i Gyngor Sir Bro Morgannwg am nad yw y Cyngor hwnnw yn gallu cynnig gwasnaeth boddhaol yn y Gymraeg (daw rhagor o wybodaeth am hyn yn nes at yr achos arbennig hwnnw).Hi hefyd drefnodd yr ymweliad gan ddirprwyaeth o Lydawyr welwyd yn rali Cymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon dydd Sadwrn. Wrth weithredu heddiw dywedodd Mair Stuart:"Rwyf wedi cymryd rhan yn yr ymgyrchn hon yn enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg oherwydd methiant Rhodri Morgan a’i lywodraeth i hyd yn oed i drafod yn effeithiol yr angen am Ddeddf Iaith newydd er i Rhodri Morgan roi ei air yn y Senedd ddeuddeg mlynedd yn ol mewn dadl ar yr iaith Gymraeg y byddai yn gwneud hyn. Rwyf wedi diflasu ar wleidyddion nad ydynt yn cadw at eu gair.”Stori oddi ar wefan y Daily Post