Mwy o weithredu uniongyrchol - Deddf Iaith Newydd

Mewn rali genedlaethol yn galw am Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir am 2pm heddiw tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi y bydd gweithredu uniongyrchol cyson gan aelodau’r mudiad, rhwng nawr a’r Nadolig. Bwriad y gweithredu hwn fydd hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth ar yr angen i gyflwyno deddfwriaeth iaith newydd.

Meddai Catrin Dafydd, arweinydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd:"Mae bellach dros ddegawd ers pasio’r hen ddeddf iaith ac nid yw ei grymoedd yn gwneud digon i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg mewn byd sy’n newid yn gyflym. Ymhellach, mae’r penderfyniad diweddar i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dileu rhan helath o gynnwys yr hen ddeddf. Mae hyn oll yn golygu bod mawr angen i’n Llywodraeth i roi ystyriaeth fanwl i’r angen i gyflwyno deddfwriaeth iaith newydd.""Ond, er gwaethaf cyd-destun o’r fath, mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad yn benderfynol i anwybyddu unrhw alwad am Ddeddf Iaith Newydd. Nid ydynt yn barod hyd yn oed i drafod y mater. Yng ngwyneb ymateb o’r fath, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ati i weithredu’n uniongyrchol, gan dargedu swyddfeydd y llywodraeth mewn gwahanol rannau o Gymru. Bwriad gweithredu di-drais o’r fath yw i ddwyn y mater i sylw’r cyhoedd dro ar ôl tro, gan geisio sicrhau na all y Llywodraeth barhau i’w anwybyddu.”Daw’r addewid hwn o weithredu uniongyrchol cyson wythnos wedi i chwech o aelodau’r Gymdeithas gael eu harestio am beintio sloganau yn datgan ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ar waliau pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays. Erbyn hyn mae pedair o’r aelodau hyn yn wynebu achosion llys.Yn ystod y rali bydd y dorf yn gwrando ar anerchiadau gan yr Athro Hywel Teifi Edwards, y Prifardd Mererid Hopwood, yr Aelod Seneddol Hywel Williams ac hefyd Steffan Cravos a Catrin Dafydd o Gymdeithas yr Iaith. Bydd y bandiau Cymraeg Mattoidz a Brigyn hyefyd yn chwarae setiau arbennig.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Wales on SundayStori oddi ar wefan y Daily Post.Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y South Wales Echo.