Yn ystod yr hanner awr ddiwethaf arestiwyd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am beintio sloganau yn datgan 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle' ar waliau pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o weithredoedd di-drais a fydd yn cael eu cyflawni gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith hyd y Nadolig. Bwriad y gweithredu hyn fydd hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth ar yr angen i gyflwyno deddfwriaeth iaith newydd.Y ddau a arestiwyd heddiw yw Hywel Griffiths o Langynog, ger Caerfyrddin a Huw Lewis o Aberystwyth. Meddai Catrin Dafydd, arweinydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd:"Mae dros degawd bellach ers pasio’r hen ddeddf iaith ac nid yw hi bellach yn berthnasol i bobl Cymru. Mae’r byd wedi symud ymlaen yn gyflym ers Deddf Iaith 1993.""Yn ogystal, mae’r penderfyniad diweddar i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dileu rhan helaeth o gynnwys yr hen ddeddf. Mae hyn oll yn golygu bod mawr angen i’n Llywodraeth i roi ystyriaeth fanwl i’r angen i gyflwyno deddfwriaeth iaith newydd.""Mae'n hen bryd felly i Rhodri Morgan gadw at yr addewid a wnaeth flynyddoedd yn ôl pan benderfynodd i wrthod pleidleisio o blaid y Ddeddf yr Iaith a gyflwynwyd gan y Toriaid ym 1993. Bryd hynny, dywedodd; 'We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh Language measure when we are in Government'.""Ond, er gwaethaf ei addewidion Rhodri Morgan, mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad yn benderfynol o anwybyddu unrhyw alwad am Ddeddf Iaith Newydd. Yn fwy na hyn, dydy Rhodri Morgan a’i lywodraeth ddim yn barod i drafod y mater yn ddemocrataidd.""Yn wyneb diffyg atebolrwydd y llywodraeth, bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i weithredu’n uniongyrchol, gan dargedu swyddfeydd y llywodraeth mewn gwahanol rannau o Gymru.""Bwriad gweithredu di-drais o’r fath yw codi ymwybyddiaeth mai nawr yw'r amser i sicrhau deddfwriaeth gynhwysfawr ac na all y llywodraeth barhau i anwybyddu'r angen i sicrhau hawliau pobl Cymru."Stori oddi ar wefan y Daily PostStori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd