Mae Cymdeithas yr iaith wedi cyhuddo Arriva Cymru o symboleiddiaeth ar ol darganfod nad ydy gwefan 'ddwyieithog' y cwmni trenau yn cydnabod enwau gorsafoedd yng Nghymru, os byddant yn cael eu mewnosod i ffurflen chwilio'r wefan yn Gymraeg.
Am 12 o’r gloch prynhawn dydd Sadwrn Rhagfyr 11eg bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, o dan arweiniad Sion Corn, yn trefnu trip siopa Nadolig drwy strydoedd Aberystwyth.
Penderfynodd Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyfarfu dros y Sul ysgrifennu at y Prif Weinidog Rhodri Morgan a’r Gweinidog Diwylliant Alun Pugh. Mae’r Gymdeithas am gyfarfod â’r ddau i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dilyn y penderfyniad i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dros nos cafodd 25 o gwmniau preifat yn Aberystwyth megis Halifax, Millets, Dorothy Perkins, Burtons, Abbey a Woolworths eu targedu am yr eildro gan 30 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, pan orchuddiwyd eu ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
Fe dargedodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gwmniau preifat megis Focus, Lidl a Coral am yr eildro yng Nghaerdydd dros nos, gan orchuddio’r ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
Cafodd tua 50 o gwmniau megis Next, Marks & Spencer, Body Shop a Boots, eu targedu yng Nghaerfyrddin neithiwr, gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae bwyty cadwyn Burgerking wedi addo mabwysiadu polisi dwyieithog erbyn y Nadolig. Dyna’r neges a dderbyniodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw gan reolwr Burgerking yn Aberystwyth.
Neithiwr, yn nhref Aberteifi, cafodd nifer o gwmniau megis Kwik Save, Bewise, Curries, Halifax, Dorothy Perkins, Boots, Woolworths, W H Smiths, Thomas Cook, Choices a Peacocks eu targedu gan aelodau o'r Gymdeithas..