Deddf Iaith

Targedu siopau Aberteifi, Trallwng ac Aberystwyth yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith

deddf_iaith_newydd.gifFel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc.

Ynadon yn dweud wrth arweinwyr y Gymdeithas 'I aros tu fas!'

radio_carmarthenshire.JPG Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."

Rhoi'r Deddf Iaith 1993 yn yr Amgueddfa.

amgueddfa_genedlaethol.jpg Am 9.45am bore Mercher (Ebrill 13), bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trosglwyddo Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i ofalaeth yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Rheolwr Awen Meirion yn galw ar weithredu uniongyrchol yn erbyn cyllid y wlad!

Gwyn Sion Ifan - Awen Meirionl Mae Gwyn Sion Ifan, Rheolwr Awen Meirion wedi beirniadu Cyllid y Wlad yn hallt iawn am ragfarnu yn erbyn busnesau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymgyrch yn cychwyn i Gymreigio 'Bws Caerdydd'

bwscaerdydd_bach.jpg Neithiwr, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweithredu yn erbyn arosfannau 'Bws Caerdydd' yn y brifddinas. Dywedodd Steffan Cravos, aelod o Ranbarth Morgannwg Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Fforwm ar Ddeddf Iaith yn galw am symud ymlaen!

Daeth croesdoriad o fudiadau a sefydliadau Cymreig i’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn yn Aberystwyth.

Gwleidyddion yn Cadw Draw!

Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu aelodau o Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol am nad oes dim un ohonynt wedi cytuno i dderbyn gwahoddiad i fynychu’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir yn Aberystwyth y dydd Sadwrn hwn.

Deddf Iaith newydd - Cynhadledd i gychwyn trafodaeth amserol.

Dydd Sadwrn yma (Mawrth 12, 2005), bydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Genedlaethol i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Cynhelir y fforwm yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth. Ymhlith y cyfarnwyr bydd Hywel Williams – aelod Seneddol Caernarfon – a fydd yn amlinellu cynnwys y mesur iaith y mae’n bwriadu ei gyflwyno i senedd San Steffan.

Cefnogi gwraig a ddiswyddwyd ym Mhorthmadog

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi datgan ei chefnogaeth i Mrs Kathleen Parry a gollodd ei swydd yn Woolworth Porthmadog dros ffrae yn ymwneud â’r Gymraeg.

Gweithredu uniongyrchol ar strydoedd Rhydaman

Y Byd ar Bedwar Neithiwr, yn nhref Rhydaman, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod arall o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.