Ymgyrch yn cychwyn i Gymreigio 'Bws Caerdydd'

bwscaerdydd_bach.jpg Neithiwr, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweithredu yn erbyn arosfannau 'Bws Caerdydd' yn y brifddinas. Dywedodd Steffan Cravos, aelod o Ranbarth Morgannwg Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae'r amserlenni yn yr arosfannau, enwau'r arosfannau, yr amserlenni papur, tocynnau a gwefan Bws Caerdydd yn uniaith Saesneg. Cyn y Nadolig bu Cymdeithas yr Iaith yn gweithredu yn gyson yn erbyn cwmniau preifat mewn trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru, ac rydym yn bwriadu parhau gyda'r ymgyrchu gweithredol! Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”Ychwanegodd Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen gwneud hyn ar frys. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.”BwsCaerdydd4.jpgMae mwy o luniau ar gael yn oriel arlein Cymdeithas yr Iaith