Mae Gwyn Sion Ifan, Rheolwr Awen Meirion wedi beirniadu Cyllid y Wlad yn hallt iawn am ragfarnu yn erbyn busnesau sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Cyllid y Wlad yn annog busnesau i dalu eu Dychweliadau Blynyddol PAYE (PAYE Annual Reports) dros y we er mwyn 'hwyluso gwaith papur i gwmniau bach.'"Yn anffodus, ni ellir gwneud hyn yn y Gymraeg."medd Gwyn Sion Ifan sydd yn aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith ac a fydd a chynnig brys ar y mater hwn yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas yn Aberystwyth dydd Sadwrn."Mae yna ganlyniadau ariannol difrifol i fusnesau fel Awen Meirion sydd yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg gan y byddwn yn colli bron i £1,000 mewn gostyngiadau ariannol o hyn i 2009 am beidio a chyflawni y gwaith hwn ar lein.""Yn fy nghynnig i’r Cyfarfod Cyffredinol byddaf yn galw ar i’r Gymdeithas ddechrau ar ymgyrch o weithredu uniongyrchol yn erbyn swyddfeydd Cyllid y Wlad drwy Gymru hyd nes y byddant yn cytuno i fabwysiadu polisi fydd yn caniatau i fusnesau ac unigolion gyflawni eu ‘busnes ar lein’ drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r trafferth diweddar hwn yn pwysleisio unwaith eto yr angen am Ddeddf Iaith gryfach fydd yn gorfodi cyrff fel Cyllid y Wlad i sicrhau fod eu gwasanaethau ar lein ar gael yn y ddwyieithog."