Am 9.45am bore Mercher (Ebrill 13), bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trosglwyddo Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i ofalaeth yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Daw hyn tua awr cyn i ddirprwyaeth o’r Gymdeithas fynychu cyfarfod yn y Cynulliad gyda Alun Pugh, Gweinidog Iaith a Diwylliant Llywodraeth y Cynulliad i drafod deddfwriaeth iaith newydd.Trwy’r weithred symbolaidd hon, bydd aelodau’r Gymdeithas yn tanlinellu’r neges a fydd yn cael ei gyflwyno yn hwyrach i Alun Pugh – bod Deddf Iaith 1993 yn perthyn i hanes, a bod angen deddfwriaeth iaith newydd i ateb anghenion y Gymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.Yn ôl Steffan Cravos, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae Deddf Iaith 1993 yn perthyn i hanes. Nid oes ganddo’r gallu i warchod buddiannau siaradwyr Cymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.""Ymhellach, mae’r penderfyniad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi di-berfeddu’r ddeddf honno ac hefyd trwy’r broses o sefydlu ‘Dyfarnydd Iaith’, mae rhyw ffurf o ddeddf iaith newydd yn sicr.""Mae’r weithred symbolaidd hon – sy’n trosglwyddo Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i ofalaeth yr Amgueddfa Genedlaethol – yn pwysleisio bod y ddeddfwriaeth bresennol yn perthyn i’r gorffennol.""Mae’r ymgyrchu diweddar yn amserol gan y teimlwn fod y drafodaeth wedi symud ymlaen yn sylfaenol. Bythefnos yn ôl yn y Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a drefnwyd gan y Gymdeithas, cadarnhaodd Meri Huws, Cadeirydd presennol Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mai’r hyn sydd ei angen erbyn hyn yw trafodaeth gynhwysfawr ynghylch cynnwys Deddf Iaith Newydd.""Rydym ni’n croesawu’r cyhoeddiad hwn ac yn awyddus i drafod cynnwys ac amcanion y deddf newydd yn y cyfarfod gydag Alun Pugh."Mae’r cyfarfod yn dilyn misoedd o ymgyrchu parhaol gan y Gymdeithas i dynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.Stori oddi ar wefan y Daily Post