Heddiw mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu aelodau o Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol am nad oes dim un ohonynt wedi cytuno i dderbyn gwahoddiad i fynychu’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir yn Aberystwyth y dydd Sadwrn hwn.
Er gwaethaf penderfyniad diweddar y Llywodraeth i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg - corff sy’n gwbl ganolog i’r Ddeddf Iaith bresennol - ymddengys nad yw aelodau’r Pwyllgor Diwylliant, sydd a chyfrifoldeb penodol dros yr iaith Gymraeg yn gweld yr angen i neilltuo amser i drafod rhai o oblygiadau penderfyniad pwysig o’r fath.Mae’r ffaith fod y gwleidyddion hyn wedi penderfynu cadw draw yn rhyfeddol o ystyried fod yr angen am Ddeddf Iaith newydd bellach yn bwnc amserol iawn. Meddai Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Aeth dros deng mlynedd heibio ers pasio’r Ddeddf Iaith ddiwethaf ac felly daeth yr amser i’w hadolygu. Hefyd mae bwriad y llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith hefyd yn yn fater sy’n haeddu sylw brys ar hyn o bryd. Gyda diddymiad Bwrdd yr Iaith mae’n rhaid gofyn beth ddaw o gynlluniau iaith yr awdurdodau cyhoedus ac a ydym am weld Deddf newydd gyda phwerau fydd yn ymestyn i’r sector breifat."Ychwanegodd"Nid oeddem yn disgwyl i bob aelod o’r Cynulliad fynychu’r cyfarfod byddech wedi disgwyl ymateb mwy positif nac a gafwyd ac yn sicr fe fyddech yn disgwyl y byddai Alun Pugh y Gweinidog Diwylliant neu ei gynrychiolydd i fod yn bresennol."Nodiadau* Cynhelir y Fforwm Genedlaethol yn yr Hen Goleg Aberystwyth rhwng 10 a 4 dydd Sadwrn Mawrth 12fed.* Ymysg y rhai sy’n cymryd rhan mae Hywel Williams AS, Caernarfon fydd yn cyflwyno drafft fesur Deddf Iaith addas i’w chyflwyno i’r Senedd yn San Steffan.Mae gwybodaeth pellach am y fforwm, yn cynnwys Rhaglen y Dydd a Ffurflen Gofrestru ar gael yma.Stori llawn oddi ar wefan y Daily Post