Cefnogi gwraig a ddiswyddwyd ym Mhorthmadog

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi datgan ei chefnogaeth i Mrs Kathleen Parry a gollodd ei swydd yn Woolworth Porthmadog dros ffrae yn ymwneud â’r Gymraeg.

Mae Mrs Parry sydd wedi bod yn gweithio i Woolworth ers un mlynedd ar hugain wedi ei diswyddo ers tair wythnos ar gyhuddiad ffug o ‘intimidation and offensive comments”.Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Mae’n gywilydd o beth fod gwraig sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i gwmni Woolworths wedi cael ei diswyddo yn modd hwn a hynny yn ei hanfod am ei bod yn Gymraes Gymraeg.“Byddwn fel Cymdeithas yn gwneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo Mrs Parry. Y bwriad i ddechrau yw ysgrifennu at reolwr Woolworth ac at Undeb Mrs Parry. Ond byddwn hefyd yn ystyried cymryd camau eraill,os nad yw’r sefyllfa’n gwella.”