Croesawu diflaniad Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Bwrdd yr Iaith Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu bwriad llywodraeth y Cynulliad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Huw Lewis.

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.“Mae bwriad y llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gwneud Deddf Iaith 1993 yn un gwbl ddibwrpas gan mai ei nod oedd sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd yn rhaid cael Deddf Iaith newydd gyda phwerau yn ymestyn i’r sector breifat ac a fydd yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru.“Dyna pam yr ydym wedi trefnu Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith ar Fawrth 12fed yn Aberystwyth. Mae yna gyfle o’r newydd yn awr i edrych ar ddeddfwriaeth ieithyddol yng Nghymru.“Ofnwn mai ychydig o golled fydd yna ar ôl Bwrdd yr Iaith gan mai’r hyn a wnaeth fynychaf yn ystod ei oes fer oedd hel ei esgusion dros fethiannau llywodraeth Cymru.”