Am 2 o’r gloch prynhawn yfory (Sadwrn, Hydref 1), tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal rali bwysig yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Yn ystod y rali, bydd yr Aelod Seneddol, Hywel Williams – sydd yn un o’r siaradwyr gwadd – yn amlinellu cynnwys y mesur iaith newydd y mae’n bwriadu ei gyflwyno i senedd San Steffan yn dyfodol agos. Mae hyn yn nodi datblygiad pellach yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd.
Meddai Catrin Dafydd, arweinydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros DdeddfIaith Newydd:"Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol, sydd yn arwydd pellach fod y galw am Ddeddf Iaith Newydd yn cynyddu. Ni all Llywodraeth y Cynulliad barhau i anwybyddu’r mater.""Yn wir, mae bwriad y Llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2007 yn golygu bod rhyw fath o fesur iaith yn anochel. Y cwestiwn felly yw pa fath o ddeddf? A ydym am fodloni gyda deddfwriaeth gyfung sydd yn plesio Rhodri Morgan a’r Blaid Lafur, neu a ydym am alw am ddeddfwriaeth gynhwysfawr sydd yn ymateb i newidiadau’r degawd diwethaf ac yn sefydlu hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg? Nawr yw’r amser i ymgyrchu ac am hynny mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal y rali dydd Sadwrn."Meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon:"Mae dros ddegawd bellach ers pasio’r hen ddeddf iaith. Yn dilyn cyfnod o’r fath mae, hi’n arferol i unrhyw lywodraeth adolygu mesurau sydd yn cyffwrdd ar wahanol feysydd cymdeithasol, gan edrych am ffyrdd i’w diwygio a’u cryfhau. Credaf fod yr angen i wneud hynny mewn perthynas â Deddf Iaith 1993 hyd yn oed yn fwy o ystyried y problemau o ran defnydd o’r Gymraeg sydd yn dod ger fy mron bron yn ddyddiol. Fy ngobaith yw y bydd fy mesur Seneddol arfaethiedig yn cynnig ffordd ymlaen ac yn arwain at drafod cyhoeddus pellach."Ychwanegodd Catrin Dafydd:"Rhaid diolch i Hywel Williams AS am ei gyfraniad pwysig i’r ymgyrch. Hyderwn y bydd ei fesur iaith arfaethiedig yn cyfrannu at wthio’r drafodaeth bwysig hon yn ei blaen."Nodion Cefndir:* Cynhelir y rali ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ am 2pm ar ddydd Sadwrn Hydref 1af tu allan i bencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.* Ymhlith y siaradwyr gwadd bydd Yr Athro Hywel Teifi Edwards, y Prifardd Mererid Hopwood a’r Aelod Seneddol Hywel Williams.* Daw’r rali wythnos wedi i nifer o Gymry amlwg ddatgan eu cefnogaeth gyhoeddus i’r alwad am Ddeddf Iaith Newydd mewn cyfres o hysbyseion yn y wsag a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith.