Arestio 2 aelod arall yng Nghaerdydd

Mae dau aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cael eu harestio a’u hebrwng i Swyddfa’r Heddlu yng Nghaerdydd, bore 'ma.

Arestiwyd Osian Rhys Jones o Bontypridd a Dafydd Morgan Lewis o Aberystwyth wedi iddynt beintio sloganau yn datgan ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ar waliau pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays.18-10-05-gweithred-caerdydd.jpgDyma’r trydydd mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol a fydd yn parhau hyd y Nadolig. Bwriad y gweithredu di-drais hwn yw parhau i dynnu sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.Meddai Catrin Dafydd, arweinydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd:18-10-05-gweithred-caerdydd1.jpg"Dyma ein cyfle i bwyso am Ddeddf Iaith Newydd. Mae penderfyniad diweddar Llywodraeth y Cynulliad i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dileu rhan helaeth o gynnwys yr hen ddeddf gan adael gwagle. Mae angen Deddf Iaith Newydd i lenwi’r gwagle hwn.""Mae nifer o Gymru amlwg bellach yn cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith, gan alw yn gyhoeddus ar y Llywodraeth i adolygu yr hen Ddeddf Iaith. Yn eu plith mae; John Elfed Jones (Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith), yr Arglwydd Gwilym Prys Davies ac hefyd yr Athro Colin Williams."18-10-05-gweithred-caerdydd2.jpg"Ond, er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad yn benderfynol i anwybyddu unrhyw alwad am Ddeddf Iaith Newydd. Nid ydynt yn barod hyd yn oed i drafod y mater yn ddemocrataidd. Yn wir, mae Rhodri Morgan wedi torri’raddewid a wnaeth flynyddoedd yn ôl, pan benderfynodd i wrthod pleidleisio o blaid y Ddeddf yr Iaith a gyflwynwyd gan y Toriaid ym 1993. Bryd hynny, rhoddodd ei air y byddai’r Blaid Lafur yn cyflwyno mesur iaith llawer cryfachpan y byddent hwy yn ffurfio llywodraeth.""Yn sgil ymateb presennol y Llywodraeth, mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio cyfnod o weithredu uniongyrchol dwys a fydd yn parhau hyd nes y Nadolig. Bwriad gweithredu di-drais o’r fath yw i ddwyn y mater i sylw’r cyhoedd dro ar ôl tro, gan geisio sicrhau na all y Llywodraeth barhau i’w anwybyddu."18-10-05-gweithred-caerdydd3.jpgDaw’r weithred benodol hon ychydig ddyddiau cyn cyfarfod cyntaf Fforwm Iaith y Llywodraeth ym Mhorthmadog. Ategodd Catrin Dafydd:"Mae’n hollbwysig nad yw’r fforwm hwn yn troi’n siop siarad di-bwrpas. Dylai gael y rhyddid i drafod y materion pwysig megis yr angen am Ddeddf Iaith Newydd – mesur cwbwl hanfodol os yw’r Llywodraeth o ddifri ynglŷn â’i bwriad i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg. Am hynny galwn ar y gweinidog Diwylliant, Alun Pugh – yn sgil ei rôl fel cadeirydd y fforwm – i sicrhau y bydd y mater hwn yn cael ei drafod."