Cymreigio Morrisons

Buodd 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn Siop Morrisons Bangor ar y 26ain o Dachwedd er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, ac er mwyn sicrhau fod archfarchnadoedd fel Morrisons yn deall hinsawdd Cymru ac yn darparu adnoddau a gwasanaeth ddwyiethog.

Meddai Dewi Snelson, Swyddog Cymdeithas yr Iaith, Gogledd Cymru:"Mae'r sefyllfa yn Morrisons Bangor yn warthus. Wrth i gwmni Morrisons ailfrandio hen siop Safeways mae nhw wedi tynnu rhai o’r arwyddion prin dwyieithog oedd yno i lawr a gosod rhai uniaith Saesneg yn eu lle. Dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i ddarllen am eu cynnyrch yn Gymraeg, cael gwasanaeth Gymraeg a chael prynu cynnyrch lleol mewn archfarchnadoedd.""Mae'r brotest heddiw gan Gymdeithas yr Iaith yn tynnu sylw at yr angen am ddeddfwriaeth gadarnach ym maes y Gymraeg. Ni allwn ddibynnu ar fympwy cwmniau cyfalafol i ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n hawl sylfaenol."Galwn ar Rhodri Morgan i fynd i'r afael a'r angen hwn a gofynnwn iddo unwaith yn rhagor am drafodaeth ar yr angen am ddeddfwriaeth. Bydd y protestiadau hyn yn parhau hyd nes y bydd yna drafodaeth ar y mater gyda Morrisons ynghyd a thrafodaeth yn y Cynulliad a'r Senedd am yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.