Y 12fed aelod o Gymdeithas yr iaith wedi ei arestio

Slogan Gwyn Sion IfanAm 8.30 o'r gloch bore dydd Gwener, yr 11eg o Dachwedd arestiwyd aelod arall o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gwyn Sion Ifan o'r Bala. Dyma'r bumed weithred mewn cyfres o weithredoedd uniongyrchol sy'n targedu Swyddfa'r Llywodraeth ym Mharc Cathays i dynnu'r sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Bydd y gyfres yn parhau hyd nes y Nadolig er mwyn hoelio sylw Rhodri Morgan at yr angen argyfyngus am ddeddfwriaeth newydd.6gwyn-caerdydd-tach05.JPGMeddai Catrin Dafydd, Cadeirydd y Grwp Deddf Iaith:"Mae yna gonsensws ymhlith arbennigwyr iaith erbyn hyn fod deddfwriaeth newydd yn gwbl anorfod. Dim ond llywodraeth Lafur y Cynulliad sy'n gwadu'r angen. Yn dilyn dileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae Rhodri Morgan a'i lywodraeth wedi creu gagendor heb sicrwydd beth yn union sy'n dod yn ei le. Mae dyletswydd ar i lywodraeth Lafur y Cynulliad sicrhau trafodaeth agored ynghylch y Gymraeg."1gwyn-caerdydd-tach05.JPG"Mae'n gwbl arferol ail-edrych ar ddeddfwriaeth gymdeithasol ar ôl deng mlynedd. Mae'r ddeddfwriaeth presennol ar ei hôl hi ac mae'n hen bryd iddi gael ei diwygio. Bydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau hyd nes y bydd y llywodraeth yn barod i drafod y mater."Mae'r weithred heddiw yn dod ar drothwy cyfres o achosion llys aelodau'r Gymdeithas sydd eisoes wedi gweithredu yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith. Bydd yr ymgyrch weithredol yn parhau nes y Nadolig.2gwyn-caerdydd-tach05.JPGYr Heddlu yn Arestio Dau Fyfyriwr diniwedMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cael ar ddeall o ffynhonell dibynadwy fod dau fyfyriwr diniwed wedi cael eu harestio gan yr heddlu bore heddiw tra bod aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn peintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd.Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid yn unig fe arestiwyd Gwyn Sion Ifan o’r Bala oedd wedi peintio slogan ar y wal fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith ond fe arestiwyd dau berson arall hefyd.""Cred Cymdeithas yr Iaith mai myfyrwyr o Goleg Celf Casnewydd oedd y ddau berson arall a arestiwyd. Maent wedi bod yn paratoi ffilm ar y Gymdeithas fel rhan o’u cwrs yn y coleg a buont draw yng Nghaerdydd bore heddiw yn ffilmio aelod o Gymdeithas yr Iaith yn gweithredu’n uniongyrchol.""Credwn ei bod hi yn gywilydd o beth fod dau fyfyriwr diniwed wedi caeleu harestio gan yr heddlu pan oeddent yn gwneud dim mwy na ffilmio ar gyfer eu gwaith cwrs yn y coleg. Nid ydynt yn rhan o ymgyrch y Gymdeithas drosn Ddeddf Iaith o gwbl. Byddwn yn cysylltu a chyfreithiwr er mwyn gwneud yn siwr nad yw’r bechgyn hyn yn cael cam."ATAL Y WASG:Rhyddhawyd y ddau fyfyriwr yn ddigyhuddiad o swyddfa heddlu Caerdydd Canolog am 2 o’r gloch prynhawn heddiw ar ôl treulio 5 awr yn y ddalfa.Mae Gwyn Sion Ifan hefyd wedi ei ryddhau erbyn hyn a’i gyhuddo o ddifrod troseddol.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Daily PostCYMDEITHAS YR IAITH v LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRULlys Ynadon Caerdydd Caerdydd* Tachwedd 23ain, 10am: Lois Barrar, Menna Machreth, Gwenno Teifi a Lowri Larsen (Achos Llawn)* Tachwedd 30ain, 10am: Mair Stuart (Achos Pledio)* Rhagfyr 1af, 2.15pm: Osian Rhys a Dafydd Morgan Lewis (Achos Llawn)* Rhagfyr 2ail, 10am: Hywel Griffiths a Huw Lewis (Achos Llawn)