Deddf Iaith

Deddf Iaith ar daith yn dod i ben

Deiseb Deddf IaithBydd y daith 'Deddf Iaith ar daith' yn dod i ben dydd Sadwrn Awst 26ain pan fydd aelodau'r Gymdeithas yn casglu enwau ar y ddeiseb Deddf Iaith y tu allan i Woolworths Aberteifi rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn.

Cymdeithas yn hybu trafodaeth bellach trwy gyhoeddi drafft o fesur yr iaith

Ble mae'r Gymraeg?Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch heddiw ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno drafft o Ddeddf Iaith Newydd. Gwneir hyn fel cyfraniad pellach i’r drafodaeth gynyddol ynglyn â’r angen am ddeddfwriaeth iaith gryfach.

Aelod arall o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gwell

Angharad BlytheAr ddydd Mercher yr ail o Awst am 10 y.b, bydd Angharad Elen Blythe o flaen ei gwell yn Llys Ynadon Caerdydd. Hi fydd yr aelod olaf o’r mudiad i wynebu achos llys yn dilyn y cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad yn 2005 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Strategaeth Bwrdd yr Iaith yn siom enfawr

Bwrdd yr IaithMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Strategaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat yn hallt, ac wedi galw'r ddogfen a gyhoeddir heddiw yn 'siom enbyd.' Mae'r strategaeth yn amlinellu cynlluniau'r Bwrdd i geisio sicrhau bod mwy o gwmniau preifat yn cynnig gwasanaethau

Cymdeithas yn anghytuno â Llywydd y Cynulliad

Dafydd Elis ThomasMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu llythyr at Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan eu gwrthwynebiad llwyr i'w awgrym y dylid cwtogi ar y cyfieithu o'r 'Cofnod' er mwyn arbed arian.

Llythyru Aelodau Ewropeaidd

Bernat JoanMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dangos eu cefnogaeth i alwadau Joan Bernat ASE trwy lythyru holl aelodau Cymru o’r Senedd Ewropeaidd yn gofyn iddynt hwythau gefnogi a phleidleisio dros argymhellion Joan Bernat.

Cymdeithas yn croesawu galwadau'r gwrthbleidiau

SeneddMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu nifer o welliannau gan aelodau o wrthbleidiau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnig gan y Llywodraeth Lafur sy'n datgan na ddylid cyflwyno dyletswyddau statudol newydd y tu hwnt i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Galw ar wrthbleidiau'r Cynulliad i uno mewn ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd

gwyl-fawr-baner.jpgHeddiw (Sadwrn, Mehefin 10) yn ei Gwyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar bob un o wrthbleidiau’r Cynulliad i gydweithio er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth Lafur yn ymateb i’r angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Cymdeithas yr Iaith yn tynnu arwydd datblygiad mawr Saesneg Debenhams

DebenhamsDdeuddeg awr wedi rhwystro swyddogion addysg y Cyngor Sir rhag ymadael a maes parcio, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu yn erbyn un arall o benderfyniadau dadleuol Cyngor Sir Caerfyrddin. Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith y bore yma am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr sy'n dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin.

Cymdeithas yr Iaith a'r Toriaid yn trafod Deddf Iaith Newydd

CeidwadwyrBore fory (Gwener 9/6/06), cynhelir cyfarfod pwysig rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a chynrychiolwyr o'r Blaid Geidwadol er mwyn trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.