Bore fory (Gwener 9/6/06), cynhelir cyfarfod pwysig rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a chynrychiolwyr o'r Blaid Geidwadol er mwyn trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Yn dilyn y datganiadau diweddar gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol (a oedd oll yn cefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd) mae'r cyfarfod hwn yn arwydd pellach fod y drafodaeth ynglyn a deddfwriaeth iaith yn symud yn ei blaen.
Meddai Catrin Dafydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dros y misoedd diwethaf, cafwyd nifer o ddatganiadau cadarnhaol iawn gan aelodau o'r Blaid Geidwadol, boed hynny ynglyn â pholisi iaith yn gyffredinol neu ynglyn âr angen am Ddeddf Iaith Newydd yn benodol. Am hynny, rydym yn falch iawn o gale cyfle i dafod ein galwad am Ddeddf iaith gyda hwy. Gobeithio y gallwn gael trafodaeth adeiladol gan ddatblygu consensws ar faterion megis yr angen am statws swyddogol i'r Gymraeg a'r angen am hawliau ieithyddol sylfaenol i bobl Cymru.""Mae'r ffaith fod y Blaid Geidwadol yn barod o drafod y materion hyn yn arwydd pellach fod y drafodaeth ynglyn â deddfwriaeth iaith newydd yn symud yn ei blaen. Nawr, mae'n rhaid i'r Llywodraeth Lafur benderfynu os yw am chwarae rhan adeiladol yn y drafodaeth hon, neu a ydyw am barhau i geisio ei thanseilio."Daw'r cyfarfod hwn ddiwrnod cyn yr Wyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd a gynhelir yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Trefnir yr wyl gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac fe'i chefnogir gan lu o fudiadau Cymreig, megis Merched y Wawr, UCAC, Plaid Cymru, Cymuned, Cylch yr Iaith ac UMCA.Ymhlith y rhai fydd yn yn siarad yn y rali, bydd Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru. Yn ogystal, darllenir negeseuon o gefnogaeth gan Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol. Ceir anerchiadau hefyd gan aelodau o Ferched y Wawr, UCAC ac UMCA yn ogystal a chyfraniadau hwyliog gan feirydd, bandiau a rapwyr.