Cymdeithas yn anghytuno â Llywydd y Cynulliad

Dafydd Elis ThomasMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu llythyr at Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn datgan eu gwrthwynebiad llwyr i'w awgrym y dylid cwtogi ar y cyfieithu o'r 'Cofnod' er mwyn arbed arian.

Yn y llythyr mae'r Gymdeithas yn nodi:1. Eu bod yn gwrthwynebu unrhyw leihad yn y defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad. Ein dymuniad yw gweld cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sefydliad. Os oes angen cwtogi arian dylid darganfod enghreifftiau eraill lle gellir gwneud hyn.2. Byddai cwtogi ar y cyfieithu yn tanseilio'r egwyddor o gydraddoldeb rhwng y ddwy iaith.3. Byddai cwtogi ar y Gymraeg yn y 'Cofnod' yn mynd yn groes i'r arferion gorau. Mae'r hyn sy'n cyfateb i'r 'Cofnod' yng Nghanada, Gwlad Belg a Gwlad y Basg ar gael yn y ddwy iaith.Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dafydd Elis-Thomas fyddai'r cyntaf i ddadlau na ellir rhoi pris ar ddemocratiaeth. Yma yng Nghymru yr ydym yn cynnal ein democratiaeth mewn dwy iaith a rhaid talu'r pris am hynny.""Hefyd, rhaid nodi fod pob un o'r pleidiau yn y Cynulliad yn ddiweddar wedi galw ar i Gymdeithas Beldroed Cymru fabwysiadu polisi dwyieithog. Fe fydd hi yn llawer anoddach perswadio sefydliadau o'r fath i fabwysiadu polisiau dwyieithog os ydyn nhw yn mynd i synhwyro am funud fod y Cynulliad Cenedlaethol yn 'torri corneli.'"