Aelodau yn holi Alun Pugh yn y Fforwm Iaith

alun_pugh.jpgHolwyd y Gweinidog Iaith a Diwylliant, Alun Pugh, yn galed yn Abertawe neithiwr yn ystod cyfarfod o'r Fforwm Iaith. Yn ystod cyfnod o ymgynghori'r llywodraeth ynglŷn â diddymu Bwrdd yr iaith Gymraeg, galwodd yr aelodau am ddeddf iaith newydd a thynnwyd sylw'r gweinidog at yr ŵyl fawr dros Ddeddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin.

Ymhlith aelodau'r Gymdeithas a fu'n holi Alun Pugh yr oedd Hywel Griffiths, Is-Gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:"Gofynnwyd i Alun Pugh pam nad yw’n gweld yr angen am ddeddfwriaeth pellach ym maes y Gymraeg o ystyried y ffaith fod creu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhan ganolog o ddeddf yr iaith 1993. Os edrychwch chi ar ddeddfau’r holl feysydd cydraddoldebau eraill, mae modd gweld yr egwyddor o sefydlu hawliau. Tra bod Alun Pugh yn gwrthod y drafodaeth am hawliau pobl Cymru i'r Gymraeg, mae'n amddifadu hawl sylfaenol pawb yn y wlad."Rhoddwyd gwahoddiad hefyd i Alun Pugh i'r Ŵyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd ar y 10fed o Fehefin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yn bresennol yn yr ŵyl bydd Arweinydd yr wrth Blaid Ieuan Wyn Jones, cynrychiolwyr o fudiadau, beirdd enwog, bandiau a bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn crisialu cyfraniad Eileen Beasley i fywyd Cymru.