Am 12.30 prynhawn heddiw arestiwyd naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg oedd wedi cadwyno eu hunain at ddrws blaen yr Hen Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays. Penderfynodd y protestwyr gadwyno eu hunain at adeilad y llywodraeth er mwyn hoelio sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Y naw yw: Gwenno Teifi- Llanfihangel ar Arth, Siwan Tomos – Aberteifi, Lowri Johnston – Caerfyrddin, Ceri Phillips – Llanrwst, Geraint Rhys Edwards – Dolgellau, Lowri Mair Jones – Llanfechell, Leusa Fflur Llewelyn - Llanuwchlyn, Angharad Clwyd a Sara Davies. Disgwylir iddynt fod yng nghelloedd yr heddlu tan heno.Daw'r weithred yng nghanol cyfnod o ymgynghori gan Llywodraeth Lafur y Cynulliad ar ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a mis cyn Rali Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Yn ôl Catrin Dafydd, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Dro ar ôl tro mae'r Gweinidog Alun Pugh wedi gwrthod trafod deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg gan wrthod mynychu cyfarfodydd. Mae yna gonsensws ymhlith yr holl bleidiau eraill ar yr angen i ymestyn swyddogaeth y Llywodraeth dros y Gymraeg ond parhau i anwybyddu'r drafodaeth a wna Llywodraeth Lafur y Cynulliad.""Ledled Ewrop mae sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol yn rhan greiddiol o ddeddfwriaeth iaith. Rhaid i'r Gymraeg dderbyn statws swyddogol yn yr un modd. Statws a fydd yn gosod cynsail ar gyfer sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol. Hawliau i bawb sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw. Yn ogystal, dylai fod gan y Gymraeg Gomisiynydd i'w chynrychioli hi, fel y Comisiynydd Plant. Ni fydd gan y Dyfarnydd presennol unrhyw rym."Daw'r weithred fis cyn Rali Fawr Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin. Yno, bydd mudiadau fel UCAC, UMCA a Merched y Wawr yn mynegi eu cefnogaeth nhw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Bydd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad, Ieuan Wyn Jones yn annerch hefyd. Bydd bandiau, beirdd enwog a rapwyr yn dangos eu cefnogaeth yn ogystal â'r Athro Hywel Teifi Edwards a fydd yn cyflwyno teyrnged i gyfraniad Eileen Beasley at wleidyddiaeth yng Nghymru.Nine held in Welsh Act chain protest - Daily Post - Mai 5 2006