Codi baner Deddf Iaith ar bontydd

Bydd y faner yn mynd ar daith o amgylch Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf gan alw draw i Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ac i achos llys Angharad Blythe yng Nghaerdydd ar y 6ed o Fehefin.Mae Angharad yn gwynebu achos o ddifrod troseddol yn erbyn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn gweithred ym mis Rhagfyr pan beintiwyd slogan ar Bencadlys y Llywodraeth ym Mharc Cathays yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Bydd yr achos am 2.15pm yn Llys Ynadon Caerdydd, Adamsdown.Baner Deddf IaithBaner Deddf IaithBaner Deddf Iaith