Anrhydeddu Eileen Beasley

hysbyseb_gwe_125.gifMae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg anrhydeddu Eileen Beasley yn yr Wyl Fawr i Ddathlu'r Gymraeg a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 2 o'r gloch Dydd Sadwrn Mehefin 10fed.

Bydd rali yn galw am Ddeddf Iaith hefyd yn rhan o ddigwyddiadau'r diwrnod. Dywedodd Dafydd Morgan lewis, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n bleser mawr gan Gymdeithas yr Iaith gael anrhydeddu Eileen Beasley yn yr wyl hon. Yr oedd hi a'i diweddar briod Trefor Beasley yn arloeswyr yn y frwydr dros barhad y Gymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Gellir yn ddiddadl fynnu mai hi yw Rossa Parks, Cymru. Hi yn fwy na neb ddangosodd i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a mudiaidau eraill y modd effeithiol i weithredu yn effeithiol dros y Gymraeg.""Cyflwynir iddi gywydd gan Gerallt Lloyd Owen, wedi ei lythrennu'n gain gan Wyn Roberts, Pwllheli. Yr Athro Hywel Teifi Edwards o Langennech fydd yn gyfrifol am y cyflwyniad."Yn dilyn y cyflwyniad hwn fe fydd y cyfarfod yn troi yn rali dros Ddeddf Iaith gyda Catrin Dafydd (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru), Gwyneth Morus Jones (Merched y Wawr), Dilwyn Roberts Young (UCAC) a Stephen Hughes (UMCA) yn cymryd rhan. Mae 'Cymuned, Cylch yr Iaith a CYD ymysg nifer o fudiadau eraill sydd wedi datgan cefnogaeth i'r rali.Bydd trydydd rhan y cyfarfod yng ngofal grwpiau cerddorol fel Coda, Pala ac Eusebio a beirdd fel Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Aneurin Karadog, Iwan Llwyd a llawer mwy.Nodyn ar Eileen BeasleyYn 1952 symudodd Eileen Beasley a Threfor Beasley i fyw yn Llangennech Sir Gaerfyrddin. Dyna pryd y gofynnodd i Gyngor Gwledig Llanelli am bapur treth yn y Gymraeg. Gwrthodwyd hyn iddynt a bu iddynt hwythau yn eu tro wrthod talu'r dreth. Gwysiwyd hwy gerbron y llys ddwsin o weithiau. Mynnai'r ddau fod yr achos yn cael ei gynnal yn y Gymraeg.Bu'r beiliaid yn casglu dodrefn o'u ty dair gwaith, a'r dodrefn wrth gwrs yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd. Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley eu papur treth yn ddwyieithog. (Codwyd y manylion o ddarlith Radio Saunders Lewis 'Tynged yr Iaith).