Ar ddydd Llun, 11fed o Fehefin bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod a rheolwyr Prydeinig archfarchnad Morrisons ym mhencadlys y cwmni ym Manceinion. Byddant yn trafod galwadau Cymdeithas yr Iaith ar i Morrisons ddatblygu strategaeth genedlaethol er mwyn darpau gwasanaethau a nwyddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyfarfod yma yn dilyn 2 flynedd o lobio ac ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, a ddaeth i benllanw mewn rali a fynychwyd gan dros ddau gant o bobl ym Mangor ym mis Ionawr. Caewyd siop Morrisons Bangor am rai oriau yn ystod y brotest.
Dywedodd Dewi Snelson, Swyddog Maes rhanbarth y gogledd,“Mi yden ni’n falch bod Morrisons wedi cytuno trafod ein galwadau gyda ni. Mae’n gwbwl amlwg o’r nifer o bobl a fynychodd y rali ym mis Ionawr fod yna alw enfawr ar i Morrisons, a’r sector breifat yn gyffredinol, i ddarparu nwyddau a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn yn gobeithio’n fawr y bydd Morrisons, trwy wrando ar ein dadleuon,yn dangos esiampl i gwmniau tebyg, a gweithredu yn broactif yn nhermau ei darpariaeth.”Mae’r gwaith lobio yma gyda chwmniau’r sector breifat yn rhan o’r ymgyrch ehangach dros Ddeddf Iaith Newydd, ac yn digwydd ar adeg ble mae agwedd warthus cwmni Thomas Cook tuag at y Gymraeg wedi dangos yr angen am ddeddfwiaeth newydd a fyddai’n rhoi ststws swyddogol i’r iaith, yn creu swydd Comisiynydd Iaith, ac yn rhoi’r hawl i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd, yn gliriach nag erioed.Yn dilyn penderfyniad y cwmni i wahardd ei gweithwyr rhag siarad Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ceisio cysylltu gyda’r cwmni ar sawl achlysur ar hyd y tri diwrnod gwaith diwethaf er mwyn trafod y mater. Ni chafwyd unrhyw ymateb i’r ceisiadau. Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Tra bo gwaith lobio dros Ddeddf Iaith Newydd yn mynd rhagddo gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i lobio cwmniau yn y sector breifat ac yn gwneud iddynt sylweddoli nad yw anwybyddu’r iaith Gymraeg na chynnig gwasanaeth tocenisitg yn dderbyniol.""Fel cwmni a chanddo ddegau o ganghennau ar draws Cymru, dylent sylweddoli fod hawliau ieithyddol gan ei gwsmeriaid a’i gweithwyr. Mae agwedd warthus Thomas Cook wrth wahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg yn arwydd clir fod yna angen dirfawr am ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’n amhosib trafod gyda phob cwmni, - deddf iaith newydd yw’r unig ffordd ymlaen."